Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi cytundeb partneriaeth ddarlledu newydd, lle bydd gan y BBC yr hawliau i ddarlledu gemau pêl-droed rhyngwladol merched Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae’n cynnwys y gemau rhagbrofol sy’n weddill ar gyfer Cwpan y Byd FIFA – sy’n cael ei gynnal yn Awstralia a Seland Newydd – ymgyrch nesaf Pencampwriaeth Ewrop yn ogystal â’r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2027.
Cyhoeddwyd y cytundeb ar noswyl gêm ragbrofol derfynol Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd lle bydd tîm Gemma Grainger yn herio Slofenia o flaen y dorf fwyaf erioed. Bydd gêm gyfartal yn sicrhau bod Cymru drwodd i gemau ail-gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf. Gellir gweld y gêm yn fyw ar BBC One Wales am 19:30. Mae’r cytundeb hwn yn adeiladu ar y bartneriaeth ddarlledu flaenorol a lofnodwyd ym mis Medi y llynedd, lle darlledodd BBC Cymru gemau rhagbrofol y tîm ar gyfer Cwpan y Byd.
Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Rwy’n hynod o falch ein bod ni wedi llofnodi’r cytundeb diweddaraf hwn i ddod â phêl-droed merched Cymru i’r sgrin, ac rwy’n gwybod y bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd y gallant barhau i ddilyn y tîm, am ddim, ar y BBC am y pum mlynedd nesaf. Mae ein hymrwymiad i adlewyrchu chwaraeon merched yn ddiwyro ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant ein harlwy o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.”
Dywedodd capten Cymru Sophie Ingle am y cyhoeddiad: “Mae wedi bod yn anhygoel gweld yr effaith y mae sylw’r cyfryngau wedi’i chael ac yn parhau i’w chael ar ein gêm. Heno, bydd y dorf fwyaf erioed yn bresennol, a diolch i BBC Cymru Wales, bydd llawer mwy yn gwylio gartref hefyd! Mae cefnogaeth Y Wal Goch yn sicr yn ein sbarduno ni.”
Dywedodd Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Lowri Roberts: “Mae gwelededd ac ymwybyddiaeth yn elfennau hollbwysig yn Ein Cymru: Amdani Hi, strategaeth bêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer menywod a merched. Mae’r llwyfan y mae BBC Cymru Wales yn ei roi i’n tîm cenedlaethol yn sicrhau y bydd plant ar draws y genedl yn cael eu hysbrydoli i chwarae, i gefnogi a hyd yn oed mynd ar drywydd gyrfa yn y gêm.”
Mewn cytundeb ar wahân, mae’r BBC hefyd wedi sicrhau’r hawliau radio ar gyfer holl gemau rhyngwladol dynion a merched Cymru am y bedair blynedd nesaf.