I nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2022, mae ‘Wal Goch’ Cymru wedi ymuno â llinell gymorth Byw Heb Ofn a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i anfon neges glir i’r byd – rydym yn chwythu’r chwiban olaf ar drais yn erbyn menywod.
Fel cenedl falch, gyda hanes cryf o undod, a’r wlad gyfan yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru yn Qatar, nid oes amser gwell hefyd i ddechrau chwarae fel tîm i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng Nghymru.
Yn ystod Cwpan y Byd bydd cefnogwyr Cymru yn cymryd yr awenau i ddangos bod Cymru yn wlad sydd ag agwedd dim goddefgarwch tuag at drais yn erbyn menywod.
Mewn fideo a gynhyrchwyd yn arbennig, mae 11 aelod benywaidd o’r Wal Goch yn nodi ein bod ni ‘yma o hyd’ i bawb sydd wedi, neu sydd, yn dioddef trais neu gamdriniaeth.
Mae’r fideo wedi’i greu gan dîm o ferched sy’n cynnwys clawr newydd o Yma O Hyd, cân swyddogol ymgyrch Cymru ar gyfer Cwpan y Byd, gan y cerddor o Gymru, Bronwen Lewis, ac yn cynnwys fideograffiaeth gan y chwiorydd Elena a Sofia Costa o Gaerdydd.
Mae White Ribbon UK yn fudiad o ddynion a bechgyn sy’n gweithio i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched.
Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn 2022 yn amlygu 11 nodwedd y gall dynion a bechgyn eu meithrin i helpu i greu byd o gydraddoldeb a diogelwch i fenywod, gyda hashnod yr ymgyrch #YGôl.
Yn ogystal, mae 4 aelod gwrywaidd o’r Wal Goch wedi cofrestru fel Llysgenhadon y Rhuban Gwyn, gan wneud Addewid y Rhuban Gwyn i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. Mae Steve Thomas, Steve Austins, Greg Caine a Paul Lindsay i gyd yn frwd dros wneud gwahaniaeth.
Gwirfoddolwyr gwrywaidd yw Llysgenhadon y Rhuban Gwyn sy’n ymgysylltu â dynion a bechgyn eraill i alw am ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr a’u cymunedau er mwyn hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney:
“Yn CBDC rydyn ni’n credu ei bod hi’n hynod bwysig i ni barhau i gefnogi llinell gymorth ac ymgyrch Byw Heb Ofn hanfodol Llywodraeth Cymru.
“Gyda’r mudiad byd-eang, Diwrnod y Rhuban Gwyn, yn disgyn ar yr un diwrnod ag ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA, mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio platfform CBDC ar lwyfan y Byd i dynnu sylw at bwysigrwydd dynion yn eiriol dros beidio byth â chymryd rhan mewn trais yn erbyn menywod, ei gydoddef, na bod yn dawel am drais yn erbyn menywod.
“Mae CBDC yn falch o weld ein haelodau benywaidd a gwrywaidd o’r Wal Goch yn cefnogi’r ymgyrch hon trwy gymryd rhan yn y fideo pwerus Byw Heb Ofn ac fel llysgenhadon y Rhuban Gwyn.”
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ein helpu i amlygu a hyrwyddo ein hymgyrch Byw Heb Ofn, mae Cymru’n sefyll yn unedig yn ein condemniad o drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV) ac yn sefyll yr un mor ymroddedig yn ein penderfyniad i ddod ag ef i stop.
“Rwyf am dalu teyrnged i’r rhai sydd wedi dod ymlaen fel llysgenhadon, trwoch chi a phawb sy’n gwirfoddoli i helpu i gefnogi dioddefwyr cam-drin, byddwn yn gweithio i roi stop ar ffrewyll VAWDASV a pharhau i wneud Cymru’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.”
Mae Byw Heb Ofn yn wasanaeth rhad ac am ddim, 24/7 i holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, a rheolaeth orfodol a’r rhai sy’n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn yn y ffyrdd canlynol:
Ffonio: 0808 80 10 800
Tecstio: 0786 007 7333
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Sgwrs fyw: llyw.cymru/bywhebofn
I ddysgu mwy am Byw Heb Ofn cliciwch yma