Carfan Cymru Wedi’i Gyhoeddi ar Gyfer Gemau Olaf Pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Mae rheolwr Cymru Rob Page wedi dewis carfan o 28-chwaraewr ar gyfer y dwy gêm olaf yn yr ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Mae Page wedi cynnwys Luke Harris, ymosodwr 17 blwydd oed yn y garfan am y tro gyntaf, a fydd Gareth Bale yn teithio o’r UDA i ymuno’r efo’r garfan am y tro gyntaf ers iddo ymuno a Los Angeles FC. Ni fydd Aaron Ramsey, Harry Wilson neu Adam Davies ar gael oherwydd anafiadau.

Fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg i ffwrdd o adref ar ddydd Iau 22 o Fedi cyn y gêm olaf yn yr ymgyrch yn erbyn Gwlad Pwyl ar ddydd Sul 25 o Fedi yn Stadiwm Dinas Caerdydd (KO 19:45 ar gyfer y ddwy gêm). Y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl bydd un olaf Cymru tan Gwpan y Byd FIFA 2022 ym mis Tachwedd, ac mae tocynnau ar gael yma.

Cymru: Wayne HENNESSEY (Nottingham Forest), Danny WARD (Leicester City), Tom KING (Salford City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Rhys NORRINGTON-DAVIES (Sheffield United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Ben CABANGO (Swansea City), Joe RODON (Rennes- On loan from Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (Bournemouth), Ethan AMPADU (Spezia- On loan from Chelsea), Chris GUNTER (AFC Wimbledon), Connor ROBERTS (Burnley), Sorba THOMAS (Huddersfield Town), Joe ALLEN (Swansea City), Joe MORRELL (Portsmouth), Dylan LEVITT (Dundee United), Rubin COLWILL (Cardiff City), Jonny WILLIAMS (Swindon Town), Wes BURNS (Ipswich Town), Matthew SMITH (Milton Keynes Dons), Dan JAMES (Fulham- On loan from Leeds United), Kieffer MOORE (Bournemouth), Mark HARRIS (Cardiff City), Luke HARRIS (Fulham), Gareth BALE (Los Angeles FC), Brennan JOHNSON (Nottingham Forest), Rabbi MATONDO (Rangers), Tyler ROBERTS (Queens Park Rangers- On loan from Leeds United).

CYNGHRAIR Y CENHEDLOEDD UEFA

Cymru v Gwlad Pwyl

  • 19:45 Dydd Iau 6 o Hydref
  • Stadiwm Dinas Caerdydd
  • Tocynnau ar gael yma

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.