CBDC yn Uno â’r Artist Drill o Gymru, Sage Todz, i Ryddhau Trac Egsliwsif ‘O Hyd’

Cyn Rownd Derfynol Cymru yng Ngemau Ail Gyfle Cwpan y Byd FIFA, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi uno â’r artist drill Cymreig, Sage Todz, i ryddhau trac egsliwsif ‘O HYD’.

Mae’r trac, sy’n dechrau gyda sampl angerddol o Yma O Hyd yr artist gwerin chwedlonol Dafydd Iwan, yn arwain at rap cyffrous Sage Todz: “Dani yma. On the way to the top of game, ar y ffordd i dop y byd. Motch gen i am awgrymiadau. Mae’r wlad ei hun yn fach. Ond mae’r ddraig yn pwyso tunnell” – geiriau a rap hynod addas wrth i Gymru baratoi i herio Wcráin yn Rownd Derfynol Gemau Ail Gyfle Cwpan y Byd dydd Sul yma, 5 Mehefin.

Meddai Sage Todz: “Rydw i’n gyffrous iawn i fod yn gweithio â CBDC a Chymru ar y trac yma. Mae pêl-droed yn enfawr yng Nghymru ac ar draws y byd, ac mae gan y gêm le pwysig yn fy nghalon. Mae wedi bod yn wych cyfuno agweddau ar y pethau dwi’n eu caru a chreu rhywbeth arbennig.

“Mae CBDC a’r Timau Cenedlaethol mor bwysig i’r wlad. Pan mae ein pêl-droedwyr yn mynd allan a chynrychioli Cymru, mae’n fwy na gêm yn unig, mae hefyd am gymuned, undod ac mae’n gynrychiolaeth o bwy ydyn ni a beth allwn ni, bobl Cymru, ei wneud.”

Ar bwysigrwydd diwylliant Cymru a’i ddefnydd o’r Gymraeg, ychwanegodd Sage Todz: “Mae diwylliant Cymru yn golygu llawer i mi fel artist. Yn amlwg dwi’n siarad Cymraeg ac yn gwneud hynny yn fy mywyd bob dydd, felly dwi’n teimlo ei bod hi ond yn naturiol i mi rannu ein hiaith yn fy ngherddoriaeth.

“Rydw i’n falch iawn o barhau i ddod â’r Gymraeg i gyd-destun mwy modern a dangos bod y Gymraeg yn gallu cyfieithu i fath gwbl wahanol o gerddoriaeth i’r cyfryngau lle mae hi’n cael ei defnyddio fel arfer.”

Meddai Pennaeth Cynnwys ac Ymgysylltu CBDC, Rob Dowling: “Mae CBDC yn sefydliad modern, blaengar a does dim angen iddi ddilyn yr un rheolau confensiynol ag eraill. Mae’r hyder hwn i’w weld yn glir yn ein cydweithio â Sage Todz. Rydyn ni’n ymgysylltu’n naturiol â diwylliant modern Cymreig nid yn unig i dynnu sylw at y dalent o fewn y wlad, ond hefyd i gynrychioli amrywiaeth y diwylliant hwnnw, lle mae pobl yn mynegi eu hunaniaeth genedlaethol mewn llawer o wahanol gyfryngau.

“Mae CBDC yn talu teyrnged i hanes ac iaith Cymru, sy’n cael eu cynrychioli yn ein holl waith, tra hefyd yn gyfrwng i ni gyd fod yn falch ac yn hyderus yn yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymreig wrth i ni edrych tua’r dyfodol a chreu ein hanes ein hunain.

“Mae’r cydweithio hwn yn ymgorffori ein cenedl fodern a’i chalon hynafol, gyda Yma o Hyd Dafydd Iwan bellach yn anthem angerddol i’r Wal Goch a Thimau Cenedlaethol Cymru. Mae geiriau ac ystyr y gân wrth galon sut rydyn ni’n uniaethu â bod yn Gymry, ac i Sage mae’r mynegiant creadigol sy’n deillio o hynny yn ‘O Hyd’.”

Mae’r cydweithio rhwng CBDC yn parhau â hanes y gymdeithas bêl-droed o weithio gydag artistiaid Cymreig a’u cefnogi drwy gyfrwng cynllun Gorwelion / Horizons y BBC.

Mae pob tocyn wedi’i werthu ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Wcráin ddydd Sul, ond gall cefnogwyr Cymru barhau i brynu tocynnau ar gyfer y gemau cartref sydd ar y gweill yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd trwy: faw.cymru/tickets

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.