Efo dros fis i fynd tan y gêm, bydd Cymru yn creu hanes yn erbyn Slofenia ar nos Fawrth 6ed o Fedi (KO 19:45) yn Stadiwm Dinas Caerdydd trwy groesawi’r dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm merched rhyngwladol yng Nghymru.
Wrth i’r diddordeb yn y gêm cynyddu’n enfawr ar y cefn o lwyddiant Pencampwriaeth UEFA EURO Merched 2022, mae’r nifer o docynnau sydd wedi’i werthu am y gêm yn erbyn Slofenia wedi mynd heibio’r nifer a oedd yn y dorf ar gyfer y gêm yn erbyn Slofenia mis Hydref diwethaf, pan wnaeth dorf o 5,455 creu hanes.
Mae CBDC wedi gosod targed o 10,000 o bobl i fynychu’r gêm yn erbyn Slofenia ar nos Fawrth 6ed o Fedi, a bydd cefnogaeth Y Wâl Goch yn chwarae rhan enfawr wrth i Gymru ceisio creu hanes.
Mae clybiau ac ysgolion ledled Cymru wedi cymryd mantais o gynnig archebu tocynnau fel grŵp trwy’r CBDC, gyda phrisiau gostwng ar gael am £2 i blant a 6 i oedolion. Mae’r cynnig i archebu fel grŵp ar gael tan ddydd Mercher 24ain o Awst trwy’r ffurflen yma.
“Rwy’n hynod o gyffrous fydd Y Wal Goch yn dod yn ei rhifau ac yn ein cefnogi ni, trwy greu sŵn yn y stadiwm a chreu hanes unwaith eto yn yr ymgyrch hon. Mae’r gefnogaeth yn meddwl y byd i ni fel chwaraewyr, diolch. Mae gêm y merched wedi gweld twf enfawr yn ddiweddar, yn enwedig efo’r Bencampwriaeth EUROs i’w weld ym mhob man, ac ni’n methu aros i weld effaith hynny ar ein gemau yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio bydd y gêm yn erbyn Slofenia yn noswaith hanesyddol i bêl-droed Cymru.”
Sophie Ingle
Fydd y gêm yn erbyn Slofenia yn chwarae rhan enfawr yn daith Cymru i gyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd Merched FIFA am y tro gyntaf. Bydd carfan Gemma Grainger yn gobeithio creu hanes, gyda phedwar pwynt o’r ddwy gêm olaf yn erbyn Groeg (i ffwrdd o adre, dydd Gwener 2il o Fedi) a Slofenia (Stadiwm Dinas Caerdydd, dydd Mawrth 6ed o Fedi), yn sicrhau lle Cymru yn y gemau ail-gyfle.
Gall cefnogwyr prynu tocynnau ar https://faw.cymru/tickets, £8 i oedolion a £4 i blant.