Cymru. Pêl-Droed. Creadigrwydd.

Heddiw (3 Mai), mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi parhad Gŵyl Cymru. Y nod yw rhoi pêl-droed a chreadigrwydd wrth galon ein cymunedau, a bod chwaraeon a’r celfyddydau yn dod yn llwyfan i arddangos y gorau o Gymru, boed hynny ar y cae rhyngwladol, neu ar lawr gwlad. 

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau creadigol ar draws Cymru dros yr haf yn adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Cymru llynedd – dathliad creadigol ar y cyd rhwng CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru. Roedd Gŵyl Cymru yn un o’r llu o fentrau gafodd eu cefnogi gan Gronfa Cefnogi Partneriaid Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o ddathlu taith tîm dynion Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA a sicrhau gwaddol yng Nghymru. 

Eleni, bydd Gŵyl Cymru yn teithio i rhai o brif wyliau Cymru. O’r Eisteddfod Genedlaethol i’r Sioe Fawr, o’r Sesiwn Fawr i Tafwyl – bydd pêl-droed a’r celfyddydau yn cael eu dathlu trwy gyfres o gigs, barddoniaeth, sesiynau comedi, theatr a sgyrsiau. 

Bydd sesiynau o fyd pêl-droed a’r celfyddydau, gan gynnwys y cerddor Dafydd Iwan, yr awdur Darren Chetty, y cerddor Ani Glass, perfformwyr o’r Welsh Ballroom Community a Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa.

Megis dechrau mae’r bartneriaeth hirdymor hon rhwng CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chynlluniau pellach ar y gweill i annog artistiaid a sefydliadau celfyddydol i gydweithio a chael eu hysbrydoli gan bêl-droed yng Nghymru. 

Nod Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yw dathlu creadigrwydd ac amrywiaeth y Wal Goch a rhannu ein celfyddydau a’n diwylliant hefo’r byd. 

Meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Bydd taith Gŵyl Cymru yn enghraifft wych o’r gwaddol sydd wedi’i greu gan daith hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022. 

Rwy’n hynod falch bod CBDC yn parhau gyda’r bartneriaeth werthfawr hon gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Gyda’n gilydd byddwn yn defnyddio pŵer pêl-droed i amlygu’r dalent anhygoel sydd gennym ledled Cymru trwy ddigwyddiadau llai o fewn ein gwyliau cenedlaethol poblogaidd, sy’n arddangos ein gwlad a’n diwylliant ar eu gorau.” 

Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn gallu parhau â’r bartneriaeth gyffrous hon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Fel sefydliadau, rydym yn rhannu gwerthoedd cyffredin o gynnwys pawb a dathlu ein hieithoedd a’n cymunedau. 

Roedd y cyfle i gydweithio llynedd o dan faner Gŵyl Cymru yn fodd i ni gyflwyno cynulleidfaoedd newydd i gelfyddyd, diwylliant ac iaith Cymru. Mae gwneud y celfyddydau’n berthnasol i fywydau bob dydd pobl Cymru yn ganolog i’n cenhadaeth, a bydd ein partneriaeth â’r Gymdeithas Bêl-droed yn ein galluogi i ledaenu ein cariad at gelfyddydau a phêl-droed.” 

Meddai’r cerddor, Ani Glass: “Mae cerddoriaeth a chelf wastad wedi bod yn ganolog i’r profiad pêl-droed, o’r canu ar y cae i’r baneri, maen nhw i gyd yn plethu. Yr ymdeimlad hwn o gymuned a chyfeillgarwch y mae diwylliant pêl-droed yn ei greu sy’n fy nhynnu ymhellach i fyd y gêm brydferth hon. Felly mae’n gyffrous iawn bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i gydweithio, dwi methu aros i fod yn rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Cymru’r haf yma.” 

Meddai’r awdur, Darren Chetty: “Mae’n wych gweld CBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru yn parhau â’r berthynas lwyddiannus dan faner Gŵyl Cymru – mae celfyddydau Cymreig a phêl-droed Cymreig yn elfennau hanfodol o ddiwylliant amrywiol Cymru ac mae’n dod â phobl ynghyd.” 

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.