Mae Gemma Grainger wedi ychwanegu Jon Grey i’w thîm hyfforddi cyn gemau yn erbyn Gogledd Iwerddon a Portiwgal wythnos nesaf.
Bydd Grey yn ymuno a CBDC mewn rôl llawn amser ar ôl gweithio efo CPD Dinas Abertawe fel Prif Hyfforddwr y tîm D21 a Rheolwr yr Academi. Fe wnaeth Grey chwarae dros Gymru yn y timau dan oedran, ac wedi bod yn gweithio efo rhai o dimau dan oedran Cymru fel hyfforddwr rhan amser dros y blynyddoedd diwethaf.
Dyma’r tro gyntaf bydd y swydd is-hyfforddwr efo tîm y menywod yn un llawn amser, ac mae Grey yn hynod falch i ymuno â staff Gemma Grainger. “Rwy’n edrych ymlaen at ymuno a CBDC yn ystod cyfnod cyffrous i bêl-droed yng Nghymru. Ar ôl pum munud o siarad efo Gemma, roeddwn i’n gwybod yn syth roedd y swydd yn berffaith i mi. Bydd y gemau wythnos nesaf yn gyfle gwych i baratoi tuag at Gynghrair y Cenhedloedd hwyrach eleni lle bydd gennym ni gemau heriol ar y gorwel.”
“Roeddwn i’n edrych am hyfforddwr Cymraeg efo trwydded Pro UEFA, ac roedd Jon yn grêt efo ni allan yn Sbaen. Dyma’r tro gyntaf i’r tîm merched cael is-hyfforddwr llawn amser am y tîm menywod yn unig, ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio efo Jon am y gemau sydd yn dod fyny.”
Gemma Grainger
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon ar gael ar faw.cymru/tickets.