Pêl-Droedwyr Cymru a Llywodraeth Cymru yn Cydweithio i Herio Aflonyddu Rhywiol Ar-lein

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru wedi lansio fideo newydd heddiw, sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, i geisio helpu i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein

Mae’r fideo, ‘Codi Llais: Aflonyddu Rhywiol Ar-lein’, yn gwneud inni feddwl drwy rannu sgyrsiau rhwng rhai o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru fel Joe Allen, Lily Woodham, Esther Morgan a Joe Morrell. Mae’n annog pobl ifanc i siarad am aflonyddu rhywiol ar-lein ac yn dangos pa mor bwysig yw hi i fechgyn a dynion herio’r math hwn o ymddygiad.

Mae’r ffilm yn hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch ac mae cyngor pellach i warcheidwaid, plant ac addysgwyr ar gael ar Hwb, y platfform dysgu digidol i ysgolion Cymru.

Mae’r fideo ar aflonyddu rhywiol ar-lein yn un o gyfres o dri fideo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Hwb, gyda sgyrsiau’n ymdrin â chasineb at fenywod ar-lein, pwysigrwydd herio agweddau a rhoi gwybod yn ddiogel am ymddygiad amhriodol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol ar godi ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol eraill a’u herio, gan gynnwys lansio adnoddau addysgol unigryw a ffilm bwerus gyda thîm Merched Hŷn Cymru yn herio casineb at fenywod ar-lein.

Bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn ymweld ag Ysgol Gymunedol Porth yn ddiweddar, lle ymunodd â disgyblion mewn gwers ar herio’r broblem o aflonyddu rhywiol ar-lein, a lle cafodd y fideo newydd ei weld gyntaf gan ddisgyblion a staff ysgol.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae aflonyddu rhywiol ar-lein wedi dod yn fater cynyddol gyffredin a heriol, ac yn un all gael effaith anferth ar bobl sy’n gorfod ei ddioddef. 

“Bydd y fideo newydd yn galluogi ein hymarferwyr addysg i gefnogi sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc am ddifrifoldeb y mater – beth mae’n ei olygu, sut i roi gwybod am ymddygiad amhriodol a sut i gael cyngor pellach, drwy ein platfform Hwb i ysgolion

“Mae pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, â’u llwyddiant digynsail ar y cae, yn fodelau rôl mor gryf i blant a phobl ifanc, felly mae’n wych eu bod yn arwain drwy esiampl drwy siarad am y mater hwn.” 

Dywedodd Rheolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Sian Jones:

“Mae’n wych gweld ein chwaraewyr gwrywaidd a benywaidd yn dod at ei gilydd ac yn defnyddio eu platfform i drafod y mater pwysig hwn.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel ar y cae ac oddi arno, ac mae gweithio gyda’n chwaraewyr fel modelau rôl ac â phartneriaid allweddol fel Llywodraeth Cymru yn hanfodol i’n helpu i gyflawni hyn. Rydym am i blant a phobl ifanc deimlo’n gyfforddus i siarad am faterion fel aflonyddu rhywiol ar-lein a gwybod sut i geisio cymorth pellach, os oes angen.”

Dywedodd Joe Allen, chwaraewr Cymru ac Abertawe:

“Mae wedi bod yn frawychus clywed faint o ferched a menywod ifanc sy’n profi aflonyddu rhywiol ar-lein. Mae wedi dangos mewn gwirionedd bod angen mwy o addysg ar y pwnc ac ar raddfa pethau.

“Mae cymaint o waith i’w wneud i roi terfyn ar yr ymddygiad hwn, ond rwy’n gobeithio y bydd y sgyrsiau rhyngof i a’m cyd-chwaraewyr yng Nghymru yn annog pobl i herio’r ymddygiad hwn. Ac i’r rhai a allai fod yn dioddef y math hwn o ymddygiad, er mor galed yw hynny, mae ei riportio yn hollbwysig.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Childnet International i gyhoeddi deunyddiau dysgu addas i blant ynghylch aflonyddu rhywiol ar-lein, sef ‘Dim ond jôc?’, ar gyfer plant 9-12 oed, a ‘Codi Llaw, Codi Llais’, ar gyfer y grŵp 13-17 oed. Mae pecyn hyfforddi yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon gynyddu eu hyder o ran mynd i’r afael â’r mater. Mae pecyn hyfforddi yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon i gynyddu eu hyder wrth fynd i’r afael â’r mater.

Gall plant a phobl ifanc hefyd gael cyngor am aflonyddu rhywiol ar-lein, gan gynnwys sut mae’n edrych, sut i reportio yr ymddygiad hwn a sut i gael help yn ardal ‘Materion a phryderon ar-lein’ Hwb. Cafodd y cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ei gyd-gynllunio gyda phlant a phobl ifanc, ac fe’i lluniwyd gan ymchwil Llywodraeth Cymru i’w profiadau a’u pryderon ar-lein a rhai o’r rhwystrau i gael cymorth.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.