
Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn falch i gyhoeddi cytundeb rhwng y timau cenedlaethol Dynion a Menywod i sicrhau tâl cyfartal. Mae’r cytundeb newydd mewn lle hyd at, ac yn cynnwys, yr ymgyrchoedd Cwpan y Byd FIFA 2026 a Chwpan y Byd Menywod FIFA 2027.
Yn ymateb i’r newyddion, mae timau Dynion a Menywod Cymru wedi rhyddhau datganiad:
“Mae ‘Gyda’n Gilydd, Yn Gryfach’ wedi bod yn mantra dros timau cenedlaethol Cymru i ni gyd, ar ac oddi ar y cae, wrth i ni anelu i roi Cymru ar ben y byd. Fel rhan o waith CBDC tuag at gyfartaledd, ni’n hynod falch i gyhoeddi gyda’n gilydd bod ein timau Dynion a Menywod wedi cytuno i strwythur tâl gyfartal ar gyfer gemau cenedlaethol yn y dyfodol. Ni’n obeithiol bydd hyn yn sicrhau bod sêr y dyfodol, bechgyn a merched, yn gweld bod cyfartaledd ar draws pêl-droed rhyngwladol Cymru, sydd yn rhan hynod bwysig o gymdeithas. Gyda’r cytundeb mewn lle, byddwn ni nawr yn edrych ymlaen at yr ymgyrchoedd i geisio cyrraedd pencampwriaethau UEFA EURO 2024 a 2025, wrth i ni edrych i sicrhau fwy o lwyddiant yn y dyfodol agos ar draws ein timau cenedlaethol.”
Mae’r cytundeb yn hynod bwysig oherwydd bydd o’n danfon neges bwysig i chwaraewyr y dyfodol bod pawb sydd yn cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf yn gwisgo’r un crys ac yn cynrychioli’r un tîm yn gyfartal.
Yn ymateb i’r newyddion, roedd Prif Weithredwr CBDC Noel Mooney yn hynod falch: “Mae CBDC yn symudiad modern sydd yn edrych i’r dyfodol wrth i ni geisio tyfu yn ddyddiol. Mae’r cytundeb yma yn gam arall tuag at fod yn un o fudiadau chwaraeon gorau’r byd a hoffwn i ddiolch y timau Dynion a Menywod am gyd-weithio’n wych i sicrhau’r bod y cytundeb yn cael ei gwblhau.”
Ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylwadau bellach ar y pwnc.