Carfan Cymru Wedi’i Chyhoeddi ar Gyfer Cwpan Pinatar 2023

2022-10-06_Cymru_v_Bosnia__Herzegovina-JS-55-1

Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi carfan o 27 chwaraewr i gystadlu yng Nghwpan Pinatar yn Sbaen wythnos nesaf.

Bydd gôl-geidwad Sheffield United Bethan Davies yn ymuno efo’r garfan am y tro gyntaf tua hanner ffordd mewn i’r ffenest ryngwladol, pan fydd Safia Middleton-Patel yn gadael carfan Grainger i ymuno efo’r tîm D19 ar gyfer ei gemau nhw yn Portiwgal.

Mae’n bosib fydd yr amddiffynnwr Gemma Evans yn ennill ei hanner chanfed cap dros Gymru yn ystod y gystadleuaeth.

Bydd Cymru yn wynebu’r Philippines (19:30 GMT Dydd Mawrth 21 Chwefror), Gwlad yr Iâ (19:30 GMT Dydd Sadwrn 18 Chwefror) ac yr Alban (14:05 GMT Dydd Mawrth 21 Chwefror) yn y Pinatar Arena. Bydd mynediad i’r gemau yn rhad ac am ddim.

Gall cefnogwyr yng Nghymru gwylio’r gemau yn fyw ar BBC iPlayer a gwefan BBC Sport.

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Bristol City), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Bethan Davies (Sheffield United), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Charlie ESTCOURT (Birmingham City), Hayley LADD (Manchester United), Josie GREEN (Leicester City), Gemma EVANS (Reading), Lily WOODHAM (Reading), Esther MORGAN (Sunderland – on loan from Tottenham Hotspur), Sophie INGLE (Chelsea), Anna FILBEY (Crystal Palace), Angharad JAMES (Tottenham Hotspur), Jess FISHLOCK (OL Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Megan WYNNE (Southampton), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Helen WARD (Watford), Elise HUGHES (Crystal Palace), Georgia WALTERS (Sheffield United), Carrie JONES (Leicester City – on loan from Manchester United), Hannah CAIN (Leicester City), Rachel ROWE (Reading), Ella POWELL (Bristol City), Alice GRIFFITHS (Southampton), Maria FRANCIS-JONES (Sheffield United – on loan from Manchester City).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.