Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio Cronfa PAWB am ei hail flwyddyn.
Trwy Gronfa PAWB, mae CBDC yn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru i gael mynediad at gyfleoedd ac offer pêl-droed.
Mae Cronfa PAWB yn alinio â phrif amcan Strategaeth Ein Cymru|Our Wales 2026 CBDC; sef darparu cynnig chwarae hyblyg a chynhwysol a gwneud pêl-droed yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bobl o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol.
Mae’r gronfa ar agor i bobl ifanc 5–18 oed sy’n byw yng Nghymru a gellir gwneud cais gan neu ar ran unrhyw chwaraewr ifanc, i’w cefnogi a’u cynorthwyo i gael mynediad at gyfleoedd a/neu offer pêl-droed.
Meddai Uwch Reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Uniondeb CBDC, Jason Webber: “Mae Cronfa PAWB yn fenter i gefnogi teuluoedd lle gall costau fod yn rhwystr i gymryd rhan yn y gêm.
“Trwy ddarparu cronfa lle gall pobl wneud cais am eitemau fel esgidiau pêl-droed, padiau coesau, hijabs chwaraeon, ymhlith eitemau eraill, rydym ni’n gobeithio y bydd yn rhoi mynediad i bobl ifanc at bêl-droed yn eu cymuned, ac y byddant yn parhau i fwynhau a chymryd rhan yn y gêm.”
Wrth sôn am ddefnydd y Clwb o Gronfa PAWB, meddai Hyfforddwr RTB Glynebwy, Kyle Higgins: “Mae RTB Glynebwy wedi’u lleoli ym Mlaenau Gwent, sy’n un o’r ardaloedd tlotaf yng Nghymru, ac yn syml iawn, heb y cyllid hwn, ni fyddai pêl-droed ar gael i lawer o rieni yma.
“Fe ges i fy magu mewn tlodi fy hun ac roedd yn rhaid i mi roi’r gorau i chwarae pêl-droed yn 10 oed gan nad oedd fy rhieni yn gallu fforddio mynd â mi i gemau pêl-droed na fforddio’r offer sydd ei angen, felly mae mor bwysig bod rhywbeth fel hyn ar gael i helpu rhieni.”
Ychwanegodd Cadeirydd RTB Glynebwy, Karl Moorecroft: “Rydym wedi defnyddio Cronfa PAWB i helpu parhad pêl-droed o fewn y gymuned. Mae’n caniatáu i ni dyfu’r clwb a helpu’r bechgyn a’r merched i barhau i chwarae pêl-droed, hyd yn oed yn y cyfnod anodd sydd ohoni.
“Rydym ni eisiau annog pawb i chwarae pêl-droed, ac mae’r gronfa wedi caniatáu i ni brynu cit, cymorth gyda ffioedd ymaelodi neu danysgrifiadau misol i’r clwb. Yn RTB Glynebwy mae Cronfa PAWB wedi galluogi bechgyn a merched i chwarae pêl-droed bob dydd gyda ni.”
Gallwch wneud cais am gymorth trwy’r gronfa am yr eitemau canlynol:
- Ffioedd Aelodaeth Clwb Llawr Gwlad
- Cit Chwarae/Clwb
- Esgidiau Pêl-droed
- Padiau Coesau
- Menig Gôl-geidwad
- Hijab Chwaraeon
- Offer Nam Penodol e.e. Gogls Chwaraeon
- Costau Teithio e.e. Costau Trên, Bws neu Dacsi i Leoliadau Hyfforddi a Gemau
Bydd y cyllid sydd ar gael yn cael ei bennu gan banel cenedlaethol a fydd yn defnyddio’r wybodaeth ymgeisio i asesu pob achos. Gellir gwneud cais am Gronfa PAWB yn flynyddol i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl ifanc gael mynediad i gyfleoedd pêl-droed rheolaidd.
PROSES YMGEISIO
Gall clybiau, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol eraill wneud cais am y gronfa ar ran eraill. Bydd y ffenestr ceisiadau cyntaf ar gyfer 2023 rhwng 13 Mawrth a 31 Mawrth.
Mae ffurflen gais Cronfa PAWB ar gael YMA
Am fwy o wybodaeth: pawb.cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â pawbfund@faw.cymru