
Wedi buddugolieth hanesyddol nos Sul i sicrhau bod Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar, Yr Iseldiroedd oedd gwrthwynebwyr Cymru nos Fercher yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Saith newid oedd i dîm nos Sul Cymru gyda Brennan Johnson a Dylan Levitt yn eu plith. Ar y llaw arall, fe wnaeth Connor Roberts, Joe Rodon, Daniel James a Ben Davies i gyd ddychwelyd i’r un ar ddeg cychwynol tra bod Gareth Bale yn dechrau ar y fainc.
Dechrau digon cyfartal oedd i’r gêm ond ar ôl tri munud, daeth cerdyn melyn cyntaf y gêm i Teze wrth atal Dan James rhag manteisio ar feddiant ymosodol Cymru.
Wedi 5 munud o chwarae, daeth cyffyrddiad cyntaf arwyddocaol y gêm i Brennan Johnson, cyn cael ei dynnu i lawr yng nghanol y cae.
Daeth cyfle i’r Iseldiroedd ar ôl 7 munud o chwarae gyda’r ymosodwyr yn ymosod yng nghwrt cosbi Cymru, ond gwibio yn llydan heibio’r gôl wnaeth yr ergyd.
Cic gornel ar ôl cic gornel oedd hanes Cymru ar ôl y chwarter awr cyntaf o chwarae, gyda thair ohonyn nhw o fewn munudau i’w gilydd wrth i’r cefnwyr fanteisio ar y lle i ymosod ar yr esgyll.
Gyda Mepham yn croesi’r bêl i fewn i gyfeiriad Norrington-Davies ar ôl 15 munud o chwarae, fe beniodd y chwaraewyr Sheffield United y bêl dros y trawst.
Daeth cic rydd i Gymru ar ôl 24 munud o chwarae, a gan bod brenin y Bale ddim yn cychwyn, cyfle Harry Wilson oedd i ergydio o du allan y cwrt cosbi heddiw, ac fe wnaeth ei ergyd orfodi arbediad gan gôlgeidwad y gwrthwynebwyr.
Wedi cyfnod o feddiant ymosodol i’r Iseldiroedd, fe wnaeth taclusrwydd yng nghanol y cae olygu bod y meddiant yn dychwelyd i Gymru, ond ar ôl 30 munud o chwarae, parhau yn ddi-sgor oedd hi.
Wedi cic gornel aflwyddianus i’r Iseldiroedd ar ôl 38 munud o chwarae, daeth cyfle arall iddyn nhw funud yn ddiweddarach gan orfodi tacl gan un o arwyr gêm nos Sul, Ben Davies.
Wrth i ddiwedd y hanner cyntaf nesáu a Chymru ychydig yn fwy esgeulus ar y bêl, Yr Iseldiroedd oedd yn fwy ymosodol gan olygu diwedd mwy amddiffynol i dîm Rob Page ar ôl 45 munud.
Daeth un cyfle olaf i’r gwrthwynebwyr ar ddiwedd y hanner gyda Gakpo yn ergydio’n agos cyn i Mepham gefnu ar y bêl a’i gorfodi hi heibio’r gôl.
Daeth Adam Davies ymlaen i eilyddio Danny Ward ar ddechrau’r ail hanner.
Roedd cic rydd i’r Iseldiroedd ar ôl 48 munud yn eithaf agos i fan ergydio Harry Wilson i Gymru yn yr hanner cyntaf, ond heibio bostyn chwith y gôl aeth yr ergyd, a theg byddai dweud mai’r gwrthwynebwyr ddechreuodd yr ail hanner fwyaf ymosodol.
Daeth cyfle euraidd yr Iseldiroedd wedi 49 munud gyda Koopmeiners yn manteisio ar feddiant amyneddgar y gwrthwynebwr cyn ergydio yn isel ychydig tu allan i’r cwrt cosbi a chyrraedd cefn y rhwyd.
Cymru 0 – 1 Yr Isediroedd.

Fe wnaeth Cymru ymateb yn gadarnhaol wrth i’r Iseldiroedd fynd un gôl ar y blaen gan roi fwy o bwysau ar y bêl a gorfodi’r gwrthwynebwyr yn ddyfnach i’w meddiant eu hunain.
Daeth Rubin Colwill ymlaen i Joe Morrell ar ôl 58 munud o chwarae.
Croesodd Harry Wilson y bêl i gyfeiriad Dan James wrth i Gymru barhau i ymosod, ond ni lwyddodd i fanteisio ar y cyfle ac roedd amddiffyn trefnus Yr Iseldiroedd yn golygu ei bod hi’n anodd i fynd heibio’r Wal Oren.
Gwibiodd Dan James i lawr yr asgell ar ôl 66 munud o chwarae gan basio’r bêl i ganol y cae a chanfod Harry Wilson cyn i’r bêl ddychwelyd ato, ond dros y trawst aeth y bêl wrth i Gymru barhau i chwilio am y gôl i’w gwneud hi’n gyfartal.
Roedd gan y gwthwynebwyr y cyfle i ddwblu eu mantais wedi 71 munud o chwarae gan orfodi arbediad gan Adam Davies.
Daeth dau eilydd ymlaen i Gymru wrth nesáu tuag at 80 munud, gyda Rabbi Matondo yn eilyddio Brennan Johnson, a Gareth Bale yn dod ymlaen ar gyfer Daniel James, ond hyd yma, Yr Iseldiroedd oedd yn parhau gyda mwyafrif y meddiant ar y bêl.
Fe wnaeth croesiad Wilson i gyfeiliant y Wal Goch gael ei chlirio gan amddiffyn Yr Iseldiroedd wedi 88 munud o chwarae.
Ond ar ôl 92 munud o chwarae, daeth y cyfle i’w gwneud hi’n gyfartal i Gymru gyda chroesiad i fewn i’r bocs yn darganfod Norrington-Davies sy’n ei phenio hi i gefn y rhwyd.
Cymru 1 – 1 Yr Iseldiroedd.
Ond daeth creulondeb i Gymru ychydig o eiliadau wedyn gyda Weghorst yn ei phenio hi yng nghefn arall y rhwyd i’r gwrthwynebwyr.

Cymru 1 – 2 Yr Iseldiroedd oedd hi ar ddiwedd y gêm.
Troi’r sylw tuag at nos Sadwrn fydd tîm Rob Page yn ei wneud rwan, gan obeithio manteisio unwaith yn rhagor ar fantais gartref a chefnogaeth y Wal Goch wrth herio Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd.