Fydd Cymru yn dechrau’r flwyddyn 2023 yn Sbaen pan fydd carfan Gemma Grainger yn cymryd rhan yng Nghwpan Pinatar ym mis Chwefror.
Gyda phedwar tîm yn cymryd rhan, fydd Cymru yn wynebu’r Philippines (Dydd Mercher 15 o Chwefror), Gwlad yr Iâ (Dydd Sadwrn 18 o Chwefror) a’r Alban (Dydd Mawrth 21 o Chwefror). Cymerodd tîm Grainger rhan yn y gystadleuaeth llynedd, gan gipio’r pedwerydd safle efo wyth tîm yn cymryd rhan.
Fydd Cymru yn defnyddio’r gemau i ddechrau paratoadau ar gyfer ymgyrch ragbrofol pencampwriaeth UEFA EURO Merched 2025 a fydd yn cymryd lle hwyrach yn y flwyddyn.
Fydd pob gêm yn cymryd rhan yn y Pinatar Arena, gyda’r amserau KO a gwybodaeth darlledu i’w gadarnhau.