Dafydd Iwan a’r Wal Goch i Gyhoeddi Cân Swyddogol Cwpan y Byd FIFA 2022

Mae cân enwoca Dafydd Iwan ‘Yma o Hyd’ wedi cael ei hail-fastro o’r tapiau gwreiddiol a’i hail-gymysgu gyda lleisiau’r Wal Goch i greu’r trac cyffrous a fydd yn anthem swyddogol ar gyfer ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022.

Gosodwyd meicroffonau cudd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y ddwy gêm yn erbyn Awstria a’r Wcrain i recordio dros 70,000 o leisiau’r Wal Goch yn cyd-ganu gyda Dafydd Iwan wrth i Gymru greu hanes a mynd drwodd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’r recordiad hefyd yn cynnwys lleisiau carfan Cymru wrth iddyn nhw ganu’n llawn angerdd gyda Dafydd Iwan ar y cae wedi’r fuddugoliaeth dros Wcrain – a sicrhawyd drwy gic-rydd Gareth Bale.

Recordiwyd ‘Yma o Hyd’ yn wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn 1983 fel cân herfeiddiol i ddathlu goroesiad yr iaith Gymraeg a Chymru er gwaetha’r holl elfennau yn eu herbyn. Mae’n dathlu goroesiad un o ieithoedd hynaf y byd.

Mae’r gân bellach yn gyfystyr â llwyddiannau diweddar Timoedd Cenedlaethol Cymru, a bu Dafydd Iwan yng nghwmni’r ddau dîm – y merched a’r dynion – i egluro arwyddocâd hanesyddol y geiriau.

“Tyfodd ‘Yma o Hyd’ i fod yn fath o slogan cenedlaethol, a bellach mae’r gân a roddodd fodolaeth newydd iddo yn anthem swyddogol y Tîm Cenedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd. Mae’n freuddwyd amhosib wedi dod yn wir, ac y mae sain rhyfeddol y Wal Goch ar y trac newydd yn gyffrous ac ysbrydoledig. Mae’r fersiwn yma o Yma o Hyd yn cofnodi achlysur arbennig iawn yn hanes Cymru, pan wnaeth angerdd  lleisiau gwych y cefnogwyr helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd.

Ni fydd gan unrhyw genedl arall ddim tebyg i hyn i ysbrydoli eu tîm ar y llwyfan mwyaf yn y byd. Felly, c’mon Cymru, dewch inni ddangos i’r byd ein bod ni yma!”

Dafydd Iwan

Bydd y fideo swyddogol i fynd gyda’r recordiad yn cael ei ryddhau ar sianelau digidol Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar Dachwedd 7fed. Yr un pryd, bydd Sain yn rhyddhaur trac i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar y prif blatfformau digidol.

Yr wythnos ganlynol, bydd Sain yn rhyddhau fersiwn ar CD a fydd hefyd yn cynnwys recordiad o’r Wal Goch yn canu  Hen Wlad fy Nhadau, ac a fydd ar gael mewn siopau ac i’w archebu (pris manwerthu £2.99) drwy www.sainwales.com, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at adnoddau pêl-droed llawr gwlad.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.