Heddiw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi Gŵyl Cymru, gŵyl 10 diwrnod* i ddod â chymunedau ynghyd wrth gefnogi Cymru yn ystod eu hymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.
Nod Gŵyl Cymru, sy’n dechrau ar 19 Tachwedd, yw uno ac amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau – mewn lleoliadau ledled Cymru a thu hwnt – sy’n cael eu creu ar gyfer ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd. Drwy greu gofodau a chyfleoedd i bobl ddod ynghyd i ddathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol ym myd chwaraeon, bydd Gŵyl Cymru hefyd yn cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymreig – gan sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022.
Mae cefnogi lleoliadau annibynnol ar lawr gwlad yn ganolog i’r ŵyl – ac mae sefydliadau cymunedol, clybiau pêl-droed, a lleoliadau bellach yn cael eu gwahodd i drefnu eu rhaglen eu hunain o ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau i ddod yn rhan o’r ŵyl greadigol uchelgeisiol hon.
Meddai Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney: “Mae CBDC yn falch o fod yn defnyddio ein hymgyrch anhygoel yng Nghwpan y Byd i weithio gyda lleoliadau annibynnol ar lawr gwlad drwy Ŵyl Cymru. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid rhagorol, rydym yn galw ar ganolfannau celfyddydol, lleoliadau cerddoriaeth, clybiau pêl-droed a mentrau cymunedol ledled Cymru i ymuno â ni i gefnogi tîm cenedlaethol Dynion Cymru.
“Gall digwyddiadau Gŵyl Cymru amrywio o gerddoriaeth byw o flaen cannoedd, i weithdai celf, sgyrsiau neu setiau comedi hefo 20 yn mynychu. Rydym ni’n edrych ymlaen at weld pobl o bob rhan o Gymru yn dod at ei gilydd i gefnogi Tîm Cymru.”
Cefnogir Gŵyl Cymru gan Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS: “Mae Cwpan y Byd FIFA yn cynnig cyfle hanesyddol i hyrwyddo Cymru. Bydd Gŵyl Cymru yn ddathliad o’n diwylliant a threftadaeth, yn uno Cymru ac yn cynnig cefnogaeth i’r tîm yn Qatar. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r hyn sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad cwbl unigryw.”
Mae’r alwad agored ar gyfer unrhyw leoliad neu sefydliad, yng Nghymru a ledled y byd, sy’n dangos gemau Cymru i gyflwyno manylion eu digwyddiadau i ddod yn rhan o Ŵyl Cymru, ac mae unrhyw weithgaredd o fewn byd y celfyddydau yn berthnasol – o gigs cerddoriaeth, nosweithiau comedi neu ddangosiadau ffilm i weithgareddau plant, sesiynau llenyddol a gweithdai celf.
Meddai Elan Evans, Hyrwyddwr yn Clwb Ifor Bach: “Mae lleoliadau cerddoriaeth ar draws Cymru wedi dioddef ers Covid-19, a dal mewn cyfnod o ansicrwydd gyda’r argyfwng costau byw, felly rydym yn hynod ddiolchgar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am gefnogi lleoliadau llawr gwlad drwy drefnu’r ŵyl hon. Mae’n anhygoel gweld y tîm dynion cenedlaethol yn mynd i Gwpan y Byd, a dwi’n gobeithio cawn gyfle i ddod at ein gilydd i ddathlu eu llwyddiant ac i fwynhau ystod eang o gelfyddydau a diwylliant Cymreig modern a chynhwysol ar draws Cymru.”
Drwy gofrestru ar wefan – gwyl.cymru – bydd gweithgareddau a digwyddiadau yn cael eu rhestru mewn cyfeiriadur a’u hyrwyddo ar-lein fel rhan o’r ŵyl. Bydd y trefnwyr hefyd yn cael mynediad at becyn o adnoddau digidol fydd yn cynnwys deunydd marchnata, fideos, rhestrau chwarae, asedau cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau celf i ddefnyddio yn eu digwyddiadau. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru digwyddiad yw 19 Hydref.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gyd-gynhyrchu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda Nick Davies wedi’i benodi’n Gynhyrchydd Celfyddydau Cwpan y Byd.
Meddai Nick Davies: “Mae hon yn foment arbennig i bêl-droed yng Nghymru – a hefyd i ddiwylliant Cymru. Mae’r byd yn gwylio felly rydyn ni eisiau creu a hyrwyddo digwyddiadau sy’n cynrychioli’r gorau o Gymru – digwyddiadau sy’n gynhwysol, yn ddathliadol ac yn hwyl, y gall pobl o’n holl gymunedau gymryd rhan ynddynt.”
Meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn i weithio mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Bêl-droed ar yr ŵyl gelfyddydol genedlaethol unigryw hon – does dim byd tebyg wedi cael ei gynnal yng Nghymru erioed! Dyma gyfle gwych i’r celfyddydau fod yn rhan o’r dathliadau ar draws ein cymunedau, gan bontio diwylliant a chwaraeon mewn modd hwyliog a hygyrch. Ry’n ni’n ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ac arian achosion da y Loteri Genedlaethol ar gyfer y rhaglen hon.”
*O leiaf