Heddiw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi ail-lansio ymgyrch hollbwysig ‘Tu ôl y Llinell, Tu ôl y Tîm’ sydd â’r nod o fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol ar ochr y cae.
Mae fideo’r ymgyrch yn dangos yr effaith negyddol y gall ymddygiad ochr y cae ei chael ar y rheiny sy’n cymryd rhan trwy gyfnewid rolau a dangos plant yn beirniadu oedolion wrth iddyn nhw chwarae. Mae’r fideo yn codi ymwybyddiaeth o’r safonau ymddygiad y disgwylir eu gweld ar ochr y cae ar draws amgylcheddau pêl-droed llai ac iau.
Mae fideo newydd yr ymgyrch ‘Tu ôl y Llinell, Tu ôl y Tîm’ a’r pecyn adnoddau addysgol cysylltiedig ar gael i’w gweld ar ficrowefan Diogelu newydd sbon CBDC y gall pob clwb iau, hyfforddwr, rhiant a gwyliwr gael mynediad atynt trwy: safeguarding.cymru
Er mwyn sicrhau amgylchedd diogel a chadarnhaol lle gall chwaraewyr ffynnu a datblygu, disgwylir i bob clwb a phersonél sy’n gysylltiedig â CBDC gadw at Bolisi, Arferion a Gweithdrefnau Diogelu CBDC er mwyn sicrhau mai lles chwaraewyr sy’n dod gyntaf bob amser.
Mae creu microwefan Diogelu CBDC yn cynnig mynediad hawdd at wybodaeth, cyngor a chanllawiau pwysig i helpu i gefnogi a datblygu teulu pêl-droed Cymru, gyda thudalennau addysgol penodol wedi’u neilltuo ar gyfer Swyddogion Diogelu, Hyfforddwyr, Chwaraewyr, Rhieni, Swyddogion Gêm a Phlant.
Meddai Rheolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr CBDC, Siân Jones: “Gall pêl-droed gael dylanwad mor bwerus a chadarnhaol ar bobl ifanc, boed hynny trwy fwynhau, cyflawni neu ddatblygu rhinweddau gwerthfawr fel hunan-barch, arweinyddiaeth a gwaith tîm. Fodd bynnag, dim ond os yw plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi, eu hamddiffyn a’u grymuso y mae’r effeithiau cadarnhaol hyn yn bosibl.
“Yn anffodus, yn CBDC, mae ein Tîm Diogelu yn dal i gael gwybod am achosion o ymddygiad negyddol ar ochr y cae, a all gael effaith mor negyddol ar y chwaraewyr hynny sy’n cymryd rhan. Dyna pam fy mod i mor ddiolchgar y gallwn ni yn CBDC ailedrych ar negeseuon allweddol yr ymgyrch ‘Tu ôl y Llinell, Tu ôl y Tîm’, wrth i ni lansio ein microwefan Diogelu CBDC, i atgyfnerthu bod darparu amgylchedd cadarnhaol i bob chwaraewr yn flaenoriaeth bwysig.”
EWCH I FICROWEFAN CBDC
Ewch i ficrowefan Diogelu newydd CBDC sy’n cynnwys adnoddau ac addysg ar Bolisi, Arferion a Gweithdrefnau Diogelu: Safeguarding.Cymru