‘Mae’r Dorf yn Ymgynnull’ ar Gyfer Gŵyl Cymru Cymdeithas Bêl-Droed Cymru

Heddiw, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi cerdd swyddogol ar gyfer Gŵyl Cymru – dathliad creadigol yn nodi taith tîm cenedlaethol dynion Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar. 

Comisiynwyd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru*, gan CBDC a Llenyddiaeth Cymru i ysgrifennu ‘The Crowd Gathers’, cerdd swyddogol ar gyfer Gŵyl Cymru. Mae’r gerdd wedi ei throsi i’r Gymraeg gan Grug Muse o dan y teitl ‘Mae’r Dorf yn Ymgynnull’. Mae Hanan Issa a Grug Muse yn ymddangos yn fideo’r gerdd swyddogol, ‘The Crowd Gathers’*, yn dyfynnu llinellau o’r gerdd yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg, i gyfeiliant cerddoriaeth gan y cerddor, Sage Todz. 

Meddai Bardd Cenedlaethol Cymru, ac awdur ‘The Crowd Gathers’, Hanan Issa:

“Mae gan bêl-droed y pŵer i drawsnewid torf o unigolion yn grŵp cydlynol, wedi’u huno i gefnogi eu tîm. Mae’n gyffrous meddwl am Gymru dan chwyddwydr rhyngwladol ac roeddwn i eisiau mynegi’r ymdeimlad heintus hwnnw o obaith y mae’r wlad yn ei brofi ar hyn o bryd.”

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong:

“Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar y gerdd hon cyn ymweliad Cymru â Qatar ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022. Mae gan ein Bardd Cenedlaethol, Hanan Issa, a’r tîm pêl-droed ill dau rôl bwysig i gynrychioli Cymru ar lwyfan byd-eang ac rydym yn gobeithio y bydd y gerdd hon yn ysbrydoli’r Wal Goch a’r genedl i gefnogi ein tîm cenedlaethol.”

Meddai Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Phartneriaethau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Melissa Palmer

“Bydd Gŵyl Cymru yn gweld cyfoeth anhygoel o artistiaid a phobl greadigol yn ymuno i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd. Mae rhaglen Gŵyl Cymru yn adlewyrchu cymaint o dalent ddiwylliannol sydd gennym ar draws Cymru ac ar draws y byd. 

“Mae’r ddawn hon yn dod yn fwy amlwg fyth drwy gyfrwng cerdd iasol Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanna Issa – ‘The Crowd Gathers’. Mae wedi bod yn wych parhau â’n gwaith gyda Llenyddiaeth Cymru i rannu’r gerdd swyddogol ar gyfer Gŵyl Cymru.”

Gyda mwy na 200 o ddigwyddiadau yng Nghymru ac ar draws y byd yn rhan o’i rhaglen, bwriad Gŵyl Cymru yw uno ac amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer taith hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd, a chyflwyno cynulleidfaoedd newydd i’r iaith Gymraeg ac i gelfyddyd a diwylliant Cymreig – gan sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022, a hynny gan y wlad leiaf i ennill eu lle yn y bencampwriaeth.

Dewch o hyd i ddigwyddiad Gŵyl Cymru yn eich ardal chi ar www.gwyl.cymru.

The crowd gathers

Sage[1] says some of the biggest talents grow up in the smallest towns.

Like great trees starting life as seeds, here, we give dreams room to take root.

Spreading through our spaces of green and blue – from Mynydd Mawr kissing the clouds, to the white-frothed waves of St Davids’ shores.

North to South the cynefin of Cymru is coch.

A dragon-shaped shadow appears.

Sparks flash from feet and fingertips.

The crowd gathers, اجتمعت الجموع.

Together, the Red Wall’s fiery chorus sings of a land laced with legends and black gold, of mothers, of fathers, and the rich soil of croesawgar and hope, enough to fill Rimet’s Cup, sprouting shoots of Welsh pride in the Qatari sun.

Hanan Issa,

Bardd Cenedlaethol Cymru / National Poet of Wales

 [1]Sage Todz in Rownd ȃ Rownd

Mae’r dorf yn ymgynnull

Meddai Sage fod rhai o’r doniau mwyaf wedi ei magu yn y trefi lleiaf.

Fel coed mawr sy’n dechrau’u hoes fel hadau, yn fa’ma, ‘da ni’n creu lle i freuddwydion fwrw gwraidd. 

Yn lledu trwy ein llefydd gwyrdd a glas – o Fynydd Mawr yn cusanu’r cymylau, at donnau ewynnog-wyn glannau Tyddewi.

O’r Gogledd i’r De, mae cynefin Cymru’n goch. 

Ymddangosa cysgod siâp draig. 

Tasga wreichion o draed a blaenau bysedd. 

Mae’r dorf yn ymgynnull, اجتمعت الجموع.

Fel un, mae corws tanllyd y Wal Goch yn canu am wlad wythiennog o chwedlau ac aur du, o famau, tadau, ac o bridd cyfoethog croeso a gobaith, digon i lenwi Cwpan Rimet, eginau balchder Cymreig yn blaguro yn haul Qatar.

Hanan Issa, 

Bardd Cenedlaethol Cymru / 

National Poet of Wales

Cyf. Grug Muse

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.