Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (CBDC) yn hynod falch i gyhoeddi Matty Jones fel rheolwr newydd tîm D21 Cymru.
Efo trwydded UEFA Pro, chwaraeodd Jones dros Gymru 13 o weithiau yn ystod ei yrfa, yn ogystal â Leeds United a Chaerlŷr. Ymunodd Jones a CBDC fel rheolwr tîm D18 Cymru yn 2020 ar ôl cyfnod yn hyfforddi timau dan oedran CPD Dinas Abertawe. Ymunodd Jones â thîm hyfforddi menywod Cymru wrth i Gemma Grainger a’r garfan cyrraedd y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd Merched FIFA am y tro gyntaf.
Dywedodd Jones “Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb yn y Gymdeithas am y cyfle yma ac i bawb sydd wedi fy helpu ar y daith. Mae’n anodd cuddio’r emosiwn sydd yn dod gyda’r newyddion oherwydd rwy’n teimlo’r balchder a’r angerdd,”
“Mae cynrychioli Cymru yn rhywbeth arbennig iawn ac rwyf wastad wedi bod yn falch o hynny. Ces i nifer o heriau yn ystod fy ngyrfa chwarae ac rwy’n gobeithio bydd y profiadau hynny yn medru fy helpu pan rwyf yn gweithio ac yn cefnogi’r chwaraewyr ifanc yn ei llwybr i’r tîm gyntaf.”
Bydd y tîm D21 yn chwarae Awstria ar gyfer gêm gyntaf Jones ar ddydd Mawrth 27 o Fedi, fel rhan o’r paratoadau cyn i’r ymgyrch ragbrofol dechrau er mwyn cyrraedd Pencampwriaeth UEFA EURO D21 2025 blwyddyn nesaf.
Cymru U21: Cian TYLER (Coventry City), David ROBSON (Hull City), Ed BEACH (Chelsea), Evan WATTS (Swansea City), Fin STEVENS (Swansea City – on loan from Brentford), Ollie DENHAM (Cardiff City), Owen BEVAN (Yeovil Town – on loan from Bournemouth), Matt BAKER (Stoke City), Owen BECK (Bolton Wanderers – on loan from Liverpool), Iestyn HUGHES (Leicester City), Luca HOOLE (Bristol Rovers), Zac ASHWORTH (West Bromwich Albion), Oli HAMMOND (Nottingham Forest), Tom SPARROW (Stoke City), Eli KING (Crewe Alexandra – on loan from Cardiff City), Oli EWING (Leicester City), Charlie SAVAGE (Manchester United), Ryan HOWLEY (Coventry City), Jordan JAMES (Birmingham City), Jadan RAYMOND (Crystal Palace), James LANNIN-SWEET (Arsenal), Ed TURNS (Brighton & Hove Albion), Pat JONES (Huddersfield Town), Josh FARRELL (Juventud de Torremolinos CF – on loan from Granada FC), Josh THOMAS (Swansea City), Joe TAYLOR (Peterborough).