Heddiw, cyhoeddodd M&S Food ei fod yn uno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Thimau Pêl-droed Cymru i ddefnyddio pŵer pêl-droed i helpu teuluoedd i wneud dewisiadau bwyta iachach fel rhan o’u hymgyrch ‘Bwyta’n Dda, Chwarae’n Dda’.
Mewn partneriaeth unigryw a fydd yn para sawl blwyddyn, bydd M&S Food, CBDC a thimau pêl-droed Cymru yn bwrw golwg ar yr hyn y mae chwaraewyr yn ei fwyta er mwyn helpu i ysbrydoli teuluoedd i fwyta’n iachach yr haf hwn a thu hwnt. Trwy ddefnyddio dylanwad sêr pêl-droed Cymru, nid yn unig mae’r partneriaid yn gobeithio gwneud dewisiadau iach yn haws i deuluoedd, ond hefyd dangos bod iach a chytbwys ddim yn golygu quinoa a kale yn unig – gall fod yn hwyl ac yn flasus!
Daw’r bartneriaeth amserol hon wrth i iechyd fod yn uchel ar agenda’r genedl, gyda 46% o bobl Cymru yn poeni am iechyd teulu. Mae 33%** yn rhannu pryderon am sicrhau bwyd maethlon yn eu deiet – felly mae’r ffocws hwn ar M&S a’i sêl bendith Eat Well yn dod ar yr adeg iawn.
Mae’r bartneriaeth yn llawn o fentrau newydd – o adnoddau egsliwsif yn y siop lle gall sêr dyfodol Cymru ddysgu beth yw hoff fwydydd a chynlluniau bwyta eu hoff chwaraewyr, i gynnwys unigryw ar-lein lle byddwn yn dysgu am chwaraewyr, rheolwyr ac arwyr yn rhannu eu hoff gynhyrchion Eat Well.
Felly, gall cefnogwyr o bob oedran bellach fwyta fel eu harwyr pêl-droed waeth beth yw eu hoed neu eu gallu pêl-droed. P’un a yw hynny cyn chwarae neu ar ôl chwarae, neu damaid bach i fwyta cyn mynd allan i weld eu tîm lleol yn chwarae.
Meddai Rheolwr Tîm Dynion Cymru Rob Page: “Trwy ein partneriaeth ag M&S Food ac Eat Well rydyn ni’n anelu at helpu teuluoedd ledled Cymru i wneud dewisiadau bwyta iachach gan ddefnyddio pŵer pêl-droed.
“Mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn pêl-droed yn cynyddu bob blwyddyn a dyma’r gamp fwyaf poblogaidd ar draws y wlad. Gan ddefnyddio sêr Cymru i ysbrydoli teuluoedd a chenedlaethau’r dyfodol i fwyta’n iachach rydyn ni’n helpu i wella iechyd a maeth y genedl, sy’n beth mor bwerus i ni fel tîm a sefydliad.”
Gemma Grainger, Rheolwr Tîm Merched Cymru: “Mae ein chwaraewyr yn fodelau rôl gwych i ferched a bechgyn ifanc ledled Cymru ac rydyn ni’n falch o sut maen nhw’n defnyddio eu llwyfan i hyrwyddo ffordd iach ac actif o fyw i deuluoedd.
“Rydyn ni wedi gweld twf sylweddol yn ein torfeydd dros y 12 mis diwethaf ac mae’n wych gweld cymaint o deuluoedd yn ein cefnogi mewn gemau! Rydyn ni’n gobeithio y byddant y tu ôl i ni yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd ar 6 Medi yn ein gêm ragbrofol derfynol ar gyfer Cwpan y Byd.”
Mae Stuart Machin, Prif Swyddog Gweithredol M&S, yr un mor angerddol am y bartneriaeth ac iechyd, ac mae sicrhau bod gwneud dewisiadau iachach yn fwy hygyrch yn hynod bwysig o fewn strategaeth y manwerthwr ar gyfer y dyfodol. Meddai: “Heddiw, mi fyddaf yn ysgrifennu at ein holl gwsmeriaid am y bartneriaeth hon a’n nod i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
“Trwy fanteisio ar ddylanwad y chwaraewyr fel modelau rôl, rydym ni eisiau annog plant a theuluoedd i wneud dewisiadau bwyd iachach trwy ddewis Eat Well.”
Ychwanegodd Stuart: “Mae gennym ni bron i 2000 o gynhyrchion Eat Well blasus ar draws ein Neuadd Fwyd, ac ar-lein trwy Ocado, o ffrwythau a llysiau o ansawdd i brydau, byrbrydau a diodydd, oll yn cynnig gwerth da am arian. Rydym ni wrthi o hyd yn datblygu a gwella ein hamrywiaeth o gynhyrchion, i roi dewisiadau blasus ac iachach i’n cwsmeriaid bob dydd”
Ychwanegodd Alison Jenkins, Rheolwr Rhanbarthol, M&S, De Cymru: “Mae ein gwaith gyda CBDC yn llawer mwy na noddi yn unig, rydyn ni eisiau helpu i newid iechyd y genedl a’r cam cyntaf yw cynyddu nifer y cynhyrchion gyda’r blodyn Eat Well a’i gwneud yn haws i’n cwsmeriaid eu gweld. Bydd siopwyr yng Nghymru yn gallu dewis cardiau rysáit Cymru penodol yn y siop fel y gallant ail-greu prydau eu hoff chwaraewyr gartref – p’un a yw hynny i frecwast, cinio neu swper. Gall sêr y dyfodol hyd yn oed ddysgu pa gynhyrchion Eat Well mae Cymru yn eu bwyta mewn gwersylloedd hyfforddi.”