Partneriaeth Newydd yn Rhoi’r Gymraeg a’r Gymuned Wrth Galon Pêl-Droed Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod ar flaen y gad yn hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol ac yn rhyngwladol.

Bellach, diolch i bartneriaeth newydd rhwng y Gymdeithas a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, bydd cefnogaeth i chwaraewyr a staff i gryfhau eu sgiliau Cymraeg, gyda mwy o gyfleoedd i ddysgu a mwynhau’r iaith ar lawr gwlad.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn llunio rhaglen hyfforddi arbennig ar gyfer sgwad a staff cefnogi Cymru, gyda gwersi Cymraeg ar sawl lefel dysgu, o ddechreuwyr i godi hyder. 

Bydd cwrs 10-awr, hunan-astudio ar-lein newydd ymhlith yr adnoddau fydd ar gael i dimau a hyfforddwyr lleol, a chefnogwyr Cymru.  Wedi’i deilwra ar gyfer y byd pêl-droed a chwaraeon, bydd y cwrs yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion pob dydd.

Bydd y Gymdeithas yn cyfeirio cefnogwyr at gyrsiau’r Ganolfan Genedlaethol, sy’n cynnwys dosbarthiadau wyneb-yn-wyneb cymunedol, a rhai rhithiol.  Bydd mynediad at 1,500 o adnoddau dysgu digidol, yn ogystal â chynllun ymwybyddiaeth iaith, hefyd yn rhan o’r bartneriaeth.

Mae’r cyfan yn dechrau gyda sesiwn flasu rithiol rad ac am ddim, sy’n cael ei chynnal gan y Ganolfan am 7.00pm nos Iau, 10 Tachwedd.

Bydd ymgyrch ddigidol, ‘Ein Tîm, Ein Hiaith’, wedi’i chefnogi gan y Gymdeithas, hefyd yn cael ei chynnal o gwmpas Cwpan Pêl-droed y Byd.  Y nod fydd denu dysgwyr i gyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr sy’n dechrau ym mis Ionawr.  Mae adnoddau digidol eraill, gan gynnwys gweithgareddau pêl-droed i’r teulu, ar gael ar dysgucymraeg.cymru.

Mae’r Gymdeithas wedi croesawu’r bartneriaeth, gyda’r Prif Weithredwr, Noel Mooney, ymhlith y cyntaf i ddechrau hyfforddiant Cymraeg.

Meddai Noel Mooney: “Mae’r Gymraeg yn rhan fawr o’n diwylliant pêl-droed ac yng ngemau Cymru, adref ac oddi cartref, dych chi’n clywed y Gymraeg o’ch cwmpas.  Wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan Pêl-droed y Byd yn Qatar, ’dyn ni’n gwybod bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a ’dyn ni eisiau adeiladu ar ein angerdd at yr iaith, ar ac oddi ar y cae.

“Mae’r bartneriaeth yma yn rhoi cyfle gwych i ni gryfhau ein sgiliau Cymraeg a magu hyder i ddefnyddio a mwynhau’r iaith hyd yn oed yn fwy.  Dw i wedi dechrau dysgu yn barod ar Duolingo ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy!”

Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, AS, “Mae’n wych i weld y ffordd mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hyrwyddo ac yn dathlu’r Gymraeg, gan godi proffil yr iaith, adref ac oddi cartref.

“’Dyn ni’n rhannu’r un nod – i weld y Gymraeg yn ffynnu mewn cymunedau ar draws Cymru – ac mae’r bartneriaeth yma yn gam arall tuag at wireddu’r uchelgais hwnnw.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae cymuned, cyfeillgarwch a chynwysoldeb yn werthoedd sy’n gyffredin i’r Gymdeithas ac i’r Ganolfan.

“Mae croeso i bawb ddysgu a mwynhau’r Gymraeg gyda ni, a thrwy weithio gyda’r Gymdeithas, ’dyn ni’n gobeithio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.  Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at ennyn cefnogaeth i dîm cenedlaethol Cymru o blith ein cymuned ddisglair o siaradwyr newydd yr iaith.”

S4C yn penodi Arweinydd Strategaeth Cymraeg 

Mae S4C yn cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth iddi gyflwyno strategaeth newydd sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd mwy eang ac amrywiol ac yn gwneud cynnwys Cymraeg yn hygyrch i bob gwyliwr.

I ddatblygu ei hymrwymiad i siaradwyr newydd yr iaith, mae S4C wedi penodi dysgwr Cymraeg i swydd allweddol.  Yn y rôl newydd sbon yma, fel Arweinydd Strategaeth Cymraeg, bydd Sara Peacock, sy’n wreiddiol o Rydychen, yn gyfrifol am dyfu rhai o frandiau S4C ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Bydd Sara yn cydweithio’n agos gyda’r Ganolfan Genedlaethol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu cynnwys gwreiddiol, deniadol aml-blatfform ar gyfer dysgwyr.  Mae S4C hefyd yn gweithio gyda’r Gymdeithas Bêl-droed i ddatblygu cynnwys o gwmpas Cwpan y Byd sy’n addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd, gyda defnydd cynyddol o isdeitlau Saesneg a Chymraeg, sy’n sicrhau bod y cynnwys cyffrous hwn yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C: “Un o flaenoriaethau S4C yw i groesawu a chefnogi siaradwyr Cymraeg newydd.  Mae ein partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhan hollbwysig o’r amcan yma.

“Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus ar gyfer gemau rhagbrofol y dynion, ’dyn ni wedi rhannu taith y tîm i Gwpan y Byd gyda chefnogwyr Cymru a ’dyn ni wrth ein bodd gyda’r ffordd mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cofleidio’r iaith a’i chyflwyno i gefnogwyr ar hyd y daith.  Mae pêl-droed yn iaith ryngwladol, sy’n dod â phawb at ei gilydd ac sy’n bwysig iawn i ddod â chefnogwyr at S4C i glywed y Gymraeg a mwynhau ein darllediadau arbennig, heb eu hail o’r tîm cenedlaethol.

“Yma yn S4C, mae ymrwymiad gyda ni i groesawu ac i gefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg.  ’Dyn ni’n falch iawn bod Sara yn ymuno gyda ni i arwain y gwaith pwysig hwn.”

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.