Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Llywodraeth Cymru heddiw wedi rhannu ail fideo y gyfres “Codi Llais” sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr Cymru.
Mae “Codi Llais: Herio Agweddau” yn datgelu sgyrsiau rhwng pêl-droedwyr Cymru Joe Allen, Lily Woodham, Esther Morgan a Joe Morrell gan drafod pa mor bwysig yw bod bechgyn a dynion yn codi llais yn erbyn ymddygiad amhriodol tuag at ferched a menywod.
Mae’r fideo yn un o gyfres o dri lle mae’r sgyrsiau yn trafod codi llais yn erbyn casineb tuag at ferched ar-lein, rhoi gwybod yn ddiogel am ymddygiad amhriodol, yn ogystal ag annog pobl ifanc i godi eu llais am aflonyddu rhywiol ar-lein.
Mae cyfres fideos “Codi Llais” yn cyfeirio at adnoddau perthnasol a chyngor i deuluoedd, plant ac addysgwyr sydd ar gael ar Hwb, y platfform dysgu digidol ar gyfer ysgolion Cymru.
Meddai Rheolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Sian Jones: “Mae CBDC wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn ddiogel ar y cae, ac oddi arno. Rydym ni’n falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru a defnyddio llwyfan chwaraewyr Cymru i sicrhau bod y pynciau sy’n cael eu trafod yn fwy hygyrch i rieni, athrawon a gwarcheidwaid.
Lansiwyd fideo cyntaf y gyfres ‘Codi Llais: Aflonyddu Rhywiol Ar-lein’, ym mis Gorffennaf, ac mae’n hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.
I gyd-fynd â’r lansiad gwreiddiol, ymwelodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ag Ysgol Gymunedol Porth, lle ymunodd â disgyblion mewn gwers ar herio’r broblem o aflonyddu rhywiol ar-lein, lle cafodd y fideo newydd ei weld gyntaf gan ddisgyblion a staff yr ysgol.
Meddai Jeremy Miles: “Mae aflonyddu rhywiol ar-lein wedi dod yn fater cynyddol gyffredin a heriol, ac yn un all gael effaith anferth ar bobl sy’n ei ddioddef.
“Bydd y fideo newydd yn rhoi i’n hymarferwyr addysg yr adnoddau i gefnogi sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc am ddifrifoldeb y mater – sut mae’n edrych, sut i roi gwybod am ymddygiad amhriodol a sut i gael cyngor pellach, drwy ein platfform Hwb i ysgolion.
“Mae pêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, â’u llwyddiant digynsail ar y cae, yn fodelau rôl mor wych i blant a phobl ifanc, felly mae’n wych eu bod yn arwain drwy esiampl drwy siarad am y mater hwn.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Childnet International i gyhoeddi deunyddiau dysgu addas i oedrannau penodol ar aflonyddu rhywiol ar-lein, sef ‘Dim ond jôc?’, ar gyfer plant 9-12 oed, a ‘Codi Llaw, Codi Llais’, ar gyfer y grŵp 13-17 oed. Mae pecyn hyfforddi yn cael ei ddatblygu i helpu athrawon gynyddu eu hyder o ran mynd i’r afael â’r mater.
Gall plant a phobl ifanc hefyd gael cyngor am aflonyddu rhywiol ar-lein, gan gynnwys sut mae’n edrych, sut i roi gwybod am yr ymddygiad hwn a sut i gael help yn adran ‘Materion a phryderon ar-lein‘ Hwb. Cafodd y cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth ei gyd-gynllunio gyda phlant a phobl ifanc, ac fe’i lluniwyd gan ymchwil Llywodraeth Cymru i’w profiadau a’u pryderon ar-lein a rhai o’r rhwystrau i gael cymorth.
Anogir ymarferwyr i rannu’r gyfres o ffilmiau gyda’u dysgwyr i gefnogi sgyrsiau pwysig am aflonyddu rhywiol ar-lein ac ymddygiadau amhriodol eraill, yn ogystal â chael mynediad at y pecynnau cymorth addysgu a’r cyngor sydd ar gael ar Hwb.