Rob Page yn Arwyddo Cytundeb Newydd Fel Rheolwr Tîm Dynion Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn hynod falch i gyhoeddi cytundeb pedair-blynedd i reolwr tîm Cymru Rob Page, wrth i Gymru edrych ymlaen at Gwpan y Byd FIFA 2022 a’r ymgyrchoedd i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO 2024 a Chwpan y Byd FIFA 2026.

Yn ystod ei amser fel rheolwr dros-dro, fe wnaeth Page sicrhau lle Cymru yn grŵp A Gynghrair y Cenhedloedd UEFA, cyrraedd rownd 16 olaf UEFA EURO 2020 a chreu hanes wrth i Gymru ennill lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA am y tro gyntaf yn 64 mlynedd. Cyn cymryd yr awenau gyda’r tîm cenedlaethol, roedd Page yn rheolwr y tîm D21, lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o sêr Cymru gan gynnwys Dan James, Joe Rodon, Joe Morrell a Chris Mepham.

Dywedodd Rob Page “Mae’n anrhydedd enfawr i reoli fy ngwlad, y fraint fwyaf o fy mywyd. Rwy’n edrych ymlaen at yr her sydd i’w ddod dros y pedair blynedd nesaf, gan ddechrau efo ein Cwpan y Byd gyntaf ers 64 mlynedd. Rwy’n gobeithio gallwn ni rhoi gwen ar wynebau ein cefnogwyr ym mis Tachwedd ac adeiladu ar y llwyddiant trwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau EURO a Chwpan y Byd yn y dyfodol.”

Bydd Page nawr yn edrych i baratoi ei garfan ar gyfer y Cwpan y Byd ym mis Tachwedd, yn ogystal â’r gemau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, lle fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn Brussels (Dydd Iau 22 o Fedi) a Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Dydd Sul 25 o Fedi). Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl ar gael yma.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.