Strategaeth Gynaliadwyedd Gyntaf y Gymdeithas Bêl-Droed i Ddefnyddio Grym Pêl-Droed er Lles Cymru a’r Byd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio ei strategaeth gynaliadwyedd gyntaf erioed, sef ‘Cymru, llesiant a’r byd’ sy’n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ‘Cymru leol fyd-eang’, gan ddefnyddio grym pêl-droed i wella llesiant y genedl. 

Gyda thîm cenedlaethol y dynion yn mynd i’w Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd, dywedodd y prif weithredwr, Noel Mooney, y bydd y sefydliad yn rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd ei holl benderfyniadau, gan annog yr ecosystem bêl-droed gyfan – a gweddill y wlad – i ddilyn ei arweiniad. 

Mae’r strategaeth wedi’i datblygu gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel conglfaen. Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ymgorffori dyletswydd i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith. Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw benderfyniadau polisi sy’n cael eu gwneud heddiw ystyried pa effaith y byddan nhw’n ei chael ar y cenedlaethau a ddaw.

Mae’r gymdeithas bêl-droed nawr yn mabwysiadu’r ysbryd arloesol yna gyda’r weledigaeth o ddod yn arweinydd cynaliadwyedd ym myd chwaraeon, gan arddangos yr esiampl y gall pêl-droed ei chwarae mewn gwlad fach i ysbrydoli eraill i ddilyn eu camau.    

Mae strategaeth ‘Cymru, llesiant a’r byd’ yn adeiladu ar gynllun strategol y llynedd, ‘Ein Cymru’, oedd yn amlinellu chwe cholofn strategol i adeiladu cymdeithas gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r adroddiad yn darparu cynllun gweithredu clir i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddatblygu clybiau, cynghreiriau a mentrau cynaliadwy a chryfach ar draws saith maes – tîm, iechyd, strwythurau, cyfleusterau, partneriaethau, datgarboneiddio a chroeso.  

Mae’r camau’n amrywio ac yn cynnwys popeth o brosesau caffael diwygiedig i sefydlu cynlluniau siopau cyfnewid ar gyfer cit ac offer, creu cronfa i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn clybiau a nodi pecynnau bwyd lleol, di-blastig, wedi’u seilio ar blanhigion ar gyfer yr eco-system bêl-droed.  

Bydd cynllun peilot yn sefydlu hyb llesiant pêl-droed mewn bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau clinigol, gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl a llesiant, cyn cyflwyno hynny ledled y wlad, tra bydd clybiau a chynghreiriau yn cael eu gefeillio â rhai eraill o gwmpas y byd er mwyn dysgu a rhannu. Mae hyrwyddo fformatau cyfranogi ac arddulliau pêl-droed newydd yn cael ei drafod hefyd er mwyn cynyddu mynediad i chwarae i bawb.

Meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Does dim ond angen i chi gamu allan i’r stryd yng Nghymru ar hyn o bryd i weld gafael pêl-droed ar y genedl. Mae 3.1m ohonon ni yn llawn cyffro am ein Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd, ac rydyn ni’n benderfynol o ddefnyddio’r grym yma i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Rydyn ni’n ei weld fel cyfrifoldeb i ni ein bod yn eiriol dros faterion mewn cymunedau lleol ac o gwmpas y byd sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ein ffordd o fyw.

“Mae’r pandemig wedi cyfrannu at ambell flwyddyn anodd ar gyfer cymunedau pêl-droed ar draws y wlad, ond rydyn ni’n dod yn ôl yn gryf. Rydyn ni’n hoffi meddwl amdanon ni’n hunain fel sefydliad blaengar sy’n cyd-fynd â diwylliant y cymunedau a’r cymeriadau sy’n rhan o fyd y bêl gron. Mae rhoi cynaliadwyedd yn gyntaf yn gallu lleihau ein gwastraff a’n hôl-troed, sicrhau ein bod yn dod yn fwy effeithlon a gwneud arbedion y mae modd eu hail-fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad.”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog cefnogwyr i chwarae eu rhan yn Fy Nghoeden, Ein Coedwig, sef menter Llywodraeth Cymru a Choed Cadw sy’n cynnig coeden i bob cartref yng Nghymru yn rhad ac am ddim. Gyda thîm cenedlaethol y dynion yn chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, mae cyfle unigryw wedi’i greu i gofio’r gorffennol ac edrych tuag at genedlaethau’r dyfodol.

Meddai Noel Mooney wedyn: “Er y bydd y Wal Goch yn bloeddio’u cefnogaeth i ni gartref a dramor yn ystod y mis, mae cymaint o gefnogwyr na chawson nhw gyfle i rannu yn yr eiliad wirioneddol arbennig yma. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i gefnogwyr blannu coeden ar gyfer rhywun sydd wedi’n gadael ni drwy fenter Fy Nghoeden Ein Coedwig sy’n cael ei lansio yn ddiweddarach ym mis Tachwedd ac fydd yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru. Fe fydd y coed yna’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac fe fyddan nhw yma am sawl Cwpan y Byd arall i’r dyfodol. Mae’r cynnig yn dechrau ddau ddiwrnod cyn ein gêm gyntaf ac fe fyddwn ni’n gofyn i gefnogwyr gadw llygad allan am ragor o wybodaeth.

“Gan weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, rydyn ni wedi ymrwymo i ysbrydoli eraill a chydweithio â phobl a sefydliadau ledled Cymru heddiw i greu yfory gwell. Gorau chwarae cyd chwarae. Beth am weithio gyda’n gilydd. Yn yr un modd, rydyn ni’n rhan annatod o weledigaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon fod yn rhan o stori Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac fel gwlad sy’n malio. Fe fyddwn ni hefyd yn gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac yn ymgysylltu â strategaeth cynaliadwyedd pêl-droed UEFA 2030. Un fricsen ar y tro, fe adeiladwn ni wal goch gartref ac o gwmpas y byd.”

Meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: “Mae Cymru yn profi ei bod yn gallu arwain y byd – ar y cae ac oddi arno! Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y strategaeth gynaliadwyedd yma, ac rwy’n cymeradwyo ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddiogelu anghenion a buddiannau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae hon yn strategaeth gynaliadwyedd gyfannol sy’n amlinellu’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â sawl argyfwng a chreu byd gwell i’r rhai sydd heb eu geni eto. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi staff, chwaraewyr, gwirfoddolwyr, cymunedau a phartneriaid i wneud Cymru yn gymdeithas chwaraeon fwyaf cynaliadwy’r byd!”

Meddai’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters: “Un peth y gallwn ni fod yn falchach byth ohono wrth i’n tîm fynd i Gwpan y Byd, yw sefydliad y tu ôl iddo sy’n adlewyrchu gwerthoedd cenedl. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dangos eu lliwiau blaengar yn eu strategaeth gynaliadwyedd sy’n cael ei chyhoeddi heddiw. Yn ein chwaraeon, ein gwleidyddiaeth a’n bywydau bob dydd, rydyn ni’n ymdrechu bob amser i fod yn Gymru well – yn Gymru gynhwysol sy’n ystyried pa effaith fydd ein gweithredoedd heddiw yn ei chael ar y cenedlaethau a ddaw.

“Yr wythnos nesaf, bydd y Gweinidog yn manylu ar sut gall pob cartref yng Nghymru hawlio coeden am ddim fel rhan o fenter Fy Nghoeden Ein Coedwig. Drwy’r fenter yma, bydd cefnogwyr pêl-droed yn gallu tyfu coeden, er cof am rywun annwyl, fydd yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, yn amddiffyn ein planhigion a’n bywyd gwyllt, ac fydd yma am sawl Cwpan y Byd sydd eto i ddod. Nawr, dewch ’mlaen dîm Cymru!”

Cymru, Llesiant a’r Byd

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.