Trafod y Dyfodol Gyda Gemma Grainger

Dechrau wythnos diwethaf cafodd Gemma Grainger a’i chyd staff gyfle i gynnal camp datblygu  yn Hensol cyn hedfan draw i Pinatar i ddechrau paratoi ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Seland Newydd (18:00BST dydd Mawrth 28 o Fehefin).

Soniodd Grainger eu cyfle i gael peth amser i ffwrdd ar ôl y camp ym mis Ebrill gan ddweud  “Na cefais ddim gwyliau, fel y mwyafrif o’r chwaraewyr, ond roedd yn braf i gael peth amser i fy hun. Cawsom gyfle i gael 6 wythnos rhwng y camp, ac dydyn ni ddim fel rheol yn cael hynny oherwydd mae’r gemau rhyngwladol yn tueddu dod mor sydyn ar ddechrau’r tymor. Roedd hi’n gyfle effeithiol i allu adlewyrchu ar y camp ym mis Ebrill, a gallu cynllunio ac edrych ymlaen at y gemau ym mis Medi.”

Rhwng yr egwyl gafodd tîm dynion Cymru’r cyfle i wneud hanes a chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA, ac roedd Grainger yn falch iawn o’r tîm.

“Roedd hi’n noson hollol anhygoel, a gallwn ddefnyddio hynny fel ysbrydoliaeth. I mi yn bersonol wnâi cymryd unrhyw gyfle i fod gyda Rob a’r tîm, ac roeddwn ni yna yn y gêm yn erbyn y Wrcrain. Rydym gyda staff sydd gweithio ar draws y timau ac roedd cael y cyfle i fod gyda’r garfan wedi fy ysbrydoli. Roedd yn hyfryd bod o gwmpas y chwaraewyr ar achlysur arbennig, yn amlwg roedd yn gêm anodd ar resymau oddi ar y cae, ond roedd y chwaraewyr wedi cadw i’r cynllun gêm a chreu hanes.”

Wrth edrych ymlaen i’r misoedd nesaf, wnaeth Grainger son am pwysigrwydd y dyfnder yn ei charfan hi, a faint mor agos yw’r chwaraewyr efo’i gilydd.

“Mae yno lot o drafodaeth eleni ynglŷn â’r gystadleuaeth Ewros Merched a’r tîm buddugol yw’r tîm sydd gyda’r mwyaf o ddyfnder.  Ni wedi cael y cyfle dros y camp mis hyn i weld nifer o wynebau, dros y sessiynau carfan datblygu a’r tîm gyntaf, ac mae hyn yn bwysig wrth i ni edrych I ddatblygu ar gyfer y dyfodol.”

Fydd rhai o’r chwaraewyr a oedd yn rhan o’r camp datblygu yn cynrychioli’r tîm D19 tymor nesaf, ac mae Grainger yn gobeithio bydd y merched yn elwa o’r profiad o ymarfer gyda rhai o wynebau mwyaf adnabyddus Cymru.

“Un o’r pethau rydym wedi neud dros y camp yw cael y rheolwyr o’r tîm D19 o gwmpas. Mae’n rhoi cyfle i’r hyfforddwyr gweld ein prosesau a hefyd i ni weld y perthynas rhwng y chwaraewyr a’r hyfforddwyr timau dan oedran. Roedd y diwrnodau cyn dod allan i Pinatar yn allweddol ar gyfer hynny, a gobeithio bydd hynny’n helpu’r chwaraewyr ifanc a’u hyfforddwyr i ddatblygu ymhellach dros y tymor nesaf”.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.