Bydd carfan Gemma Grainger yn gobeithio creu hanes ar nos Fawrth 6ed o Fedi wrth i Gymru wynebu Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer lle yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd Merched FIFA 2023.
Yn ogystal â chyrraedd y gemau ail-gyfle am y tro gyntaf yn hanes y garfan, fe fydd Grainger a’r chwaraewyr yn gobeithio creu hanes oddi ar y cae, trwy gael y dorf fwyaf am gêm merched rhyngwladol yng Nghymru yn cefnogi’r tîm ar y nôs. Gyda’r record yn sefyll ar 5,400, mae’r nod uchelgeisiol o gael torf o 10,000 o bobl wedi cael ei osod i helpu’r chwaraewyr i greu hanes.
Gyda phrisiau o £2 i blant ar gael trwy archebu fel grŵp, mae ysgolion ledled y wlad yn cael ei hybu i ddod i Gaerdydd ac i fod yn rhan o’r Wal Goch ar noson arbennig yn hanes pêl-droed Cymru. Mae’r cyn-chwaraewr Cymru ac athrawes chwaraeon Gwennan Harries wedi gosod esiampl, efo Ysgol Glantaf yn archebu dros 400 o docynnau er mwyn i blant o flwyddyn 7 a 12 i ddod i’r gêm fel rhan o’u weithgareddau diwrnod gyntaf yn yr ysgol.
Oes rydych yn rhan o ysgol a hoffech chi ddod i’r gêm, gallwch chi archebu tocynnau trwy’r ffurflen archebu fel grŵp (PDF a DOC), gyda thocynnau ar gael am £2 i blant a £6 am oedolion.
“Mae’r buzz o amgylch pêl-droed Cymru yn anhygoel ar y funud, yn enwedig y cysylltiadau gyda’r iaith Cymraeg, felly ni’n gyffrous iawn bod ni’n medru cael nifer fawr o’n ddisgyblion i ddod i’r gêm ac i fod yn rhan o’r Wal Goch. Bydd o’n brofiad gwych i fechgyn a merched o’r ysgol i wneud ffrindiau newydd fel rhan o’i diwrnod gyntaf yn Ysgol Glantaf. Mae’r nifer o ferched sydd yn chwarae pêl-droed yn yr ysgol yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn a gobeithio bydd y nos yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn helpu i ni gymryd y twf hynny i’r lefel nesaf.”
Gwennan Harries