Y diwrnod tyngedfennol mae Cymru wedi bod yn disgwyl amdano ers misoedd bellach, sef dyddiad rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd, ac daeth cadarnhad nos Fercher diwethaf mai Wcráin fyddai gwrthwynebwyr Cymru.
Roedd sawl newid i’r tim a wnaeth golli yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fercher, ac yn ôl y disgwyl, roedd Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ben Davies a Kieffer Moore yn rhan o’r unarddeg a gafodd eu dewis i gychwyn gan Rob Page. Fe wnaeth Rob Page flaenoriaethu profiad yn safle’r golgediwad, gan ddewis Wayne Hennessey yn hytrach na Danny Ward.
Fe wnaeth rheolwr Wcráin, Oleksandr Petrakov, barhau efo’r un tim a wnaeth guro’r Alban nos Fercher yn y rownd gynderfynol.
Ac wrth i’r chwiban cyntaf gael ei chwythu, roedd Cymru 90 munud i ffwrdd o gyrraedd Qatar.
Fe wnaeth tacl hwyr a rhwystredigateh wedi i Joe Allen golli meddiant ar ôl dim ond 2 funud yn unig o chwarae arwain at gerdyn melyn iddo yn ogystal â chic rydd i’r gwrthwynebwyr. Dyma’r rhybudd cyntaf gan Wcráin er mwyn datgan na fyddai hon yn gêm hawdd i Gymru.
Yn gyffredinol, y gwrthwynebwr gafodd y dechrau gorau wrth iddyn nhw ymosod yn fygythiol yn hanner Cymru ond wrth i’r cloc fynd yn ei flaen, daeth Cymru yn fwy peryglus wrth ymosod am gôl.
Ar ôl 5 munud o chwarae, fe wnaeth gwyriad gan Ben Davies o du allan y bocs arwain at gic gornel i gyfeiliant byddarol cefnogwyr wrth iddyn nhw ymateb i ddechrau cadarnhaol Wcráin.
Daeth dylanwad Neco Williams yn amlwg yn y munudau cychwynnol hefyd wrth iddo fygwth ar yr asgell chwith tu allan i’r cwrt cosbi. Ceisiodd fynd am gôl ei hun, ond gwyro wnaeth y bêl wrth i’r ymgais wyro heibio’r gôl.
Fe wnaeth Wayne Hennessey gyfiawnhau penderfyniad Rob Page i’w gychwyn yn hytrach na Danny Ward wedi iddo ddod i achubiaeth Cymru ar fwy nag un achlysur.
Roedd Kieffer Moore yn ddylanwadol wrth iddo benio’r bêl ymlaen at gapten Cymru, Gareth Bale, a ergydiodd o bell ond yn anffodus i Gymru, dros y trawst mae hi’n mynd.
Fodd bynnag, fe wnaeth esgeulustod Cymru yn eu hanner ei hun wrth i Zinchenko fod yn gwbl ganolog i holl symudiad Wcráin, a bu’n rhaid i Hennessey arbed ergyd Karavaev yn y cwrt cosbi gan achub croen Cymru unwaith yn rhagor.
Daeth cyfle i Gymru ar ôl 23 munud o chwarae wrth i Aaron Ramsey wibio i lawr yr asgell dde ond roedd y bêl ychydig gormod ymlaen i Dan James ei rhoi hi yng nghefn y rhwyd.
Roedd Zinchenko yn bygwth eto ac yn manteisio ar flerwch Cymru gyda’u pasio yn eu hanner ei hun.
Cafodd Hennessey ei brofi unwaith eto yn y cwrt cosbi, gan Tsygankov y tro hwn ond fe wyrodd y bêl i ffwrdd o’r perygl i Gymru. Teg byddai dweud mai gôl-geidwad Cymru oedd chwaraewr gorau Cymru yn ystod treian cyntaf y gêm.
Fe wnaeth chwarae slic gan Wcráin olygu bod Hennessey a Tsygankov yn mynd un yn erbyn un eto, ond fe wnaeth symudiad cyflym y gôl-geidwad achub Cymru wrth i’r gêm barhau yn ddi-sgor.
Daeth y cyfle euraidd i Gymru ar ôl 34 munud o chwarae yn sgil tacl hwyr Mykolenko ar Dan James, gan orfodi cerdyn melyn a chic rydd i Gymru.
Dim ond un dyn oedd tu ôl y bêl : Gareth Bale.
Cymru 1 – 0 Wcráin.
O du allan y bocs i du mewn i’r rhwyd, fe wnaeth ergyd Bale gyrraedd y gôl gydag ychydig o gymorth gan gapten Wcráin, Andriy Yarmolenko, wedi iddo benio pêl Bale i gefn y rhwyd.
Er mai Yarmolenko oedd sgoriwr swyddogol y gôl, dim ond un person wnaeth sgorio hon yn ôl Stadiwm Dinas Caerdydd, a brenin y Bale oedd hwnnw.
Roedd Dan James yn parhau i fygwth wrth iddo wibio i lawr yr asgell chwith cyn cael ei dynnu lawr yn yr un lle â chic rydd Bale, ond doedd dim byd yn bod efo’r dacl yn ôl y dyfarnwr.
Fe wnaeth peniad ymlaen gan Ampadu orfodi cic gornel i Wcráin, ac ar ôl i Zinchenko ei chroesi hi i fewn i ganol y cwrt cosbi, fe wnaeth partneriaeth Connor Roberts a Hennessey olygu mai parhau ar y blaen oedd Cymru ar ôl 45 munud.
Cymru ddechreuodd gryfaf yn yr ail hanner wrth iddyn nhw chwarae o’r cefn gyda Neco Williams yn troi’r amddiffyn i ymosod wrth wibio i lawr yr asgell cyn ei phasio i Dan James a drosglwyddodd y bêl i Kieffer Moore. Fe wnaeth y cawr ei chroesi hi i fewn i Aaron Ramsey, ond ni lwyddodd i fanteisio er mwyn cynyddu mantais Cymru.
Wayne Hennessey ddaeth i achubiaeth Cymru unwaith eto wrth i Yarmolenko fanteisio ar ddiffyg amddifyn Cymru cyn edrych am Mykolenko. Tsygankov a dderbyniodd y bêl cyn ceisio ei chael hi i fewn i gefn y rhwyd, ond Hennessey a arbedodd er mwyn sicrhau mai 1-0 oedd hi’n dal i fod.
Daeth profiad Ben Davies yn gwbl hanfodol wrth i’r gêm nesau at 60 munud wrth i’r amddiffynwr lygadu safle bygythiol cyn gwneud tacl hollbwysig i osgoi ildio gôl.
Ychydig o funudau wedyn, fe wnaeth Malinovskyi geisio ergydio o bell ond gwyrodd heibio’r gôl.
Roedd amddiffyn Ben Davies yn arbennig unwaith eto wedi iddo wneud i fyny am esgeulustod Joe Allen ychydig tu allan i’r cwrt cosbi gan ychwanegu at berfformiad cwbl arwrol ganddo.
Cafodd Dan James ei eilyddio am Brennan Johnson ar ôl 71 munud er mwyn ceisio rhoi ail wynt i dim Cymru a oedd wedi dechrau blino erbyn hyn. Er hyn, Wcráin oedd yn parhau i fygwth yn eu hymosod wrth chwilio am y gôl er mwyn ei gwneud hi’n gyfartal, ond roedd Hennessey a Davies fel dau gawr i Gymru yn y cefn.
Gydag ychydig dros 15 munud yn gwahanu Cymru a Qatar, roedd egni Brennan Johnson i lawr yr asgell yn greiddiol i ymosod Cymru wrth iddo basio’r bêl ymlaen i Moore, a wnaeth ddarganfod Bale yn y cwrt cosbi. Er gwaethaf ei ymdrech i ddwblu mantais Cymru, fe wnaeth Bushchan arbed gan olygu mai dim ond un gôl oedd yn parhau i fod ynddi hi.
Ben Davies neu Bendigeidfran? Daeth i achub Cymru unwaith eto wrth i ymgais Zinchenko gael y bêl i fewn i’r cwrt cosbi cyn cyrraedd Yarmolenko a wnaeth geisio ergydio. Ond Ben Davies oedd yno fel wal o flaen y gôl i sicrhau bod Cymru yn parhau ar y blaen.
Roedd 5 munud hir o amser ychwanegol yn parhau i wahanu Cymru a Chwpan y Byd, a Wal Goch amddiffyn Cymru yn ymladd am eu bywyd a’u breuddwyd gyda thacl gan Neco Williams a pheniad Ben Davies ychydig o funudau yn ddiweddarach yn hollol arwrol i Gymru.
Ar ôl 5 munud hir, cafodd y chwiban olaf ei chwythu i gadarnhau bod Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn Qatar ym mis Tachwedd. Cewri ar, ac oddi ar, y cae – mae Rob Page a’i dîm yn arwyr cenedlaethol i Gymru gyfan, ac dim ond cychwyn y daith ydy hon.