Get your tickets for EURO 2025 Play-off Final

Morgan Rogers yn Obeithiol am Ddyfodol Disglair Efo Cymru

Mae Morgan Rogers yn llawn cyffro wrth iddi hi edrych ymlaen at y gêm gyfeillgar yn erbyn Seland Newydd.

Dros y ddau ddiwrnod diwethaf mae Morgan Rogers, amddiffynwyr ifanc  sy’n chwarae i Tottenham Hotspur wedi bod yn rhan o garfan datblygu yn Hensol i baratoi ar gyfer y gemau cyffrous sy’n dod.

Mae Rogers a’i chyd chwaraewyr yn edrych ymlaen ar gyfer y gêm gyfeillgar heriol yn erbyn Seland Newydd cyn y ddwy gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y byd ond beidio edrych ymlaen ormod. 

“Rydym wastad gyda meddylfryd o un gêm ar y tro a dwi’n meddwl fod gêm Seland Newydd am fod yn gyfle da i ni brofi ein hunain yn erbyn gwrthwynebwyr uwch, ac wedyn ar ôl y gêm yma edrych ymlaen at y gêm ym mis medi”

Gan ganolbwyntio ar un gêm yn unig mae cyfle perffaith i brofi ei hunain i dîm uwch, ac yn ymarfer gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. Fel dywedai Rogers “Rhoi opsiwn i ni baratoi at efallai’r timau bydden yn dod yn erbyn yng Nghwpan y Byd os rydym yn gallu cyrraedd yno, felly dwi’n meddwl ei fod yn baratoad da i bawb a mynd mewn i gemau fel hyn ac ymarfer.”

Yn ogystal, bydd y gêm heriol yma yn gyfle i ferched ifanc brofi ein hunain ar y cae a chael eu dewis i fod yn rhan o dîm Gemma Grainger. Nid yw Rogers wedi ennill ei chap gyntaf eto ond, mae hi’n gobeithio fe ddaw’r cyfle yn fuan.

“Fi’n wastad yn gobeithio ei fod am ddod, byddwn ni’n gweld be sy’n digwydd. Fi’n barod pryd bynnag bydd yr amser yn dod, pan fydd Gemma yn gofyn i mi chwarae, fydd hi’n adeg prowd iawn i fi a fy nheulu.”

Bydd y gêm yn cael eu chwarae yn Pinatar Arena nos Fawrth nesaf gyda’r gic gyntaf am 18:00.

Er y gêm fawr yn erbyn Seland Newydd mae Rogers wedi gweld llwyddiant tîm y dynion y ddiweddar ac yn gobeithio dilyn yr un daith.

“Ni wedi gweld be sy’n digwydd ac eisiau gwneud yr un peth. Maen nhw’n gosod y safon i ni, felly ni rydym ni eisiau cyrraedd yr un uchelgais a nhw.”

Fel cyn disgybl o Ysgol Cwm Rhymni fel y sêr Tash Harding ac Aaron Ramsey, gwnaeth Rogers sôn am ddylanwad pêl-droed Cymru ar yr iaith Gymraeg.

“Ni gyd wedi gweld yr olygfeydd ar ôl i’r dynion cyrraedd Cwpan y Byd. Yn amlwg mae cân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan wedi tyfu’n enfawr, nes i ddysgu’r gân yn yr Ysgol Gynradd. Mae’n dda i’r iaith Gymraeg, ac mae’n gam mawr i weld nifer o bobl yn cefnogi’r iaith nawr.”

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.