Creu cenedl bêl-droed flaenllaw yw gweledigaeth CBDC, lle mae’r gêm yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn llwyddiannus – o bêl-droed yn y parc i lwyfan y byd – Cymru leol, fyd-eang.
Mae Tîm Cenedlaethol y Dynion wedi gosod Cymru ar y llwyfan byd-eang hwnnw drwy gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar. Mae’n hanfodol bwysig bod y llwyddiant yma’n cael ei deimlo ar lefel leol, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n hynod falch o gyhoeddi y bydd yr holl elw a ragwelir o wobr ariannol FIFA – £4 miliwn – yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cyfleusterau llawr gwlad ledled Cymru fel canlyniad uniongyrchol i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.
Wrth gyhoeddi’r cyllid newydd yma, meddai Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney: “Wrth i ni anelu at greu cenedl bêl-droed flaenllaw, mae’n hanfodol bwysig bod CBDC a’i phartneriaid cyllido yn camu i’r adwy ac yn manteisio’n llawn ar y cyfle mae cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn ei gynnig i ni. Mae cyfleusterau pêl-droed llawr gwlad ledled Cymru yn arbennig o wael, a’n prif amcan strategol yw taclo hyn nawr.
“Rydyn ni eisiau adeiladu clybiau llawr gwlad ledled Cymru sy’n gweithredu fel gofodau llesiant i’r gymuned, a gyrru mudiad pêl-droed Cymru yn ei flaen drwy iechyd, diwylliant, cerddoriaeth, iaith, cynaliadwyedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Allwn ni ddim gwneud hyn heb gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ond heddiw rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad llwyr i daclo’r problemau cronig yng nghyfleusterau pêl-droed llawr gwlad Cymru er mwyn galluogi merched a bechgyn i chwarae pêl-droed mewn amodau addas.”
Ychwanegodd Gareth Bale, Capten Cymru: “Rydyn ni mor falch bod cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd hefyd yn golygu y bydd clybiau llawr gwlad ledled Cymru hefyd yn elwa, wrth i CBDC gefnogi datblygiad cyfleusterau ysbrydoledig sy’n addas at y pwrpas.”
Meddai Llywydd CBDC, Steve Williams: “Mae ganddon ni un cyfle mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant y genedl, ar y cae ac oddi arno, drwy ddod at ein gilydd gyda’n haelodau a’n rhanddeiliaid i hyrwyddo, datblygu a gofalu am y bobl a fydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad uniongyrchol i Gymru’n chwarae yn ei chystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf ers 1958.
“Mae gwella ein cyfleusterau llawr gwlad yn hanfodol ar gyfer hyn, fel bod modd i bêl-droed a champau eraill barhau i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol. Dydyn ni ddim eisiau aros 64 mlynedd arall cyn i Gymru ymddangos yng Nghwpan y Byd eto.”
Ym mis Mai, cyhoeddodd CBDC gam cyntaf rhaglen Cronfa Cyfleusterau Llawr Gwlad, gyda gwaith gwerth £3.2 miliwn yn dechrau ar 47 prosiect ledled y wlad.
Datblygwyd y Gronfa Cyfleusterau Llawr Gwlad gan CBDC a buddsoddwyr randdeiliaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Chwaraeon Cymru, UEFA a FIFA.
Dros yr haf ac ar ddechrau’r hydref, bydd CBDC yn cyhoeddi’r rowndiau nesaf o gyllid ar gyfer pêl-droed llawr gwlad, a bydd yn egluro sut gall sefydliadau wneud cais.