Mae rheolwr Cymru Rob Page wedi cyhoeddi dau aelod newydd i’w tîm rheoli wrth iddo baratoi ar gyfer ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2024 a fydd yn dechrau mis hyn.
Bydd Eric Ramsay yn ymuno fel is-reolwr, yn cyfuno’r swydd efo’i waith fel Rheolwr Tîm Gyntaf o dan Erik Ten Hag ym Manceinion Unedig. Yn wreiddiol o ganolbarth Gymru, mae gan Ramsay Trwydded UEFA Pro a chefndir hyfforddi efo CPD Dinas Abertawe, CPD Dref yr Amwythig a Chelsea cyn symud i Old Trafford.
Yn ogystal â Ramsay, bydd Nick Davies yn ymuno fel Pennaeth Perfformiad. Mae Davies yn gweithio yn West Ham efo David Moyes ac wedi gweithio i nifer o glybiau yn Uwchgynghrair Lloegr, gan gynnwys Charlton Athletic, Birmingham, Norwich a West Bromwich Albion. Ganwyd Davies ym Mhort Talbot, ac roedd ei dad arfer rheoli clwb y dref.
Mae cyfweliadau efo Page, Ramsay a Davies ar gael i wylio am ddim ar RedWall+, platfform ffrydio CBDC.
Bydd y tîm nawr yn parhau i baratoi ar gyfer dechrau’r ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2024, lle fydd Cymru yn wynebu Croatia yn Split ar nos Sadwrn 25 o Fawrth cyn croesawi Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth 28 o Fawrth. Gall cefnogwyr archebu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Latfia trwy wefan tocynnau CBDC.
UEFA EURO 2024
Cymru v Latfia
- 19:45 Dydd Mawrth 28 o Fawrth
- Stadiwm Dinas Caerdydd
- Tocynnau ar gael yma