Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan o 24 chwaraewyr ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2024, a fydd yn dechrau i ffwrdd o adref yn erbyn Croatia (Dydd Sadwrn 25 o Fawrth) ac yna gartref yn erbyn Latfia (Dydd Mawrth 28 o Fawrth).
Bydd Luke Harris, Jordan James, Ollie Cooper a Nathan Broadhead yn gobeithio ennill ei chapiau gyntaf, ac mae Tom Bradshaw nol yn y garfan am y tro gyntaf ers 2018 ar ôl ennill Chwaraewr y Mis am fis Chwefror yn y Bencampwriaeth yn Lloegr.
Dyma’r tro gyntaf bydd y garfan yn dod at ei gilydd ers Cwpan a Byd ac ers i Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams cyhoeddi ei fod nhw’n ymddeol o bêl-droed rhyngwladol. Yn ogystal, dyma’r tro gyntaf fydd Eric Ramsay a Nick Davies yn ymuno a’r tîm hyfforddi.
Ar gyfer y rownd ragbrofol, fydd Cymru yn wynebu Croatia, Latfia, Twrci ac Armenia yng Nghrŵp D. Bydd Rob Page yn gobeithio gall Cymru cyrraedd y rowndiau terfynol EURO am y trydydd tro yn olynol, gyda’r ddau dîm a fydd yn cyrraedd brig y grŵp yn cyrraedd y bencampwriaeth yn yr Almaen haf nesaf.
Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael ar wefan tocynnau CBDC, efo prisiau yn dechrau am £5 i blant dan 16.
Cymru squad: Wayne HENNESSEY (Nottingham Forest), Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Ben CABANGO (Swansea City), Oliver COOPER (Swansea City), Tom LOCKYER (Luton Town), Joe RODON (Rennes- On loan from Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (AFC Bournemouth), Ethan AMPADU (Spezia- On loan from Chelsea), Connor ROBERTS (Burnley), Sorba THOMAS (Blackburn Rovers- On loan from Huddersfield Town), Jordan JAMES (Birmingham City), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Wesley BURNS (Ipswich Town), Aaron RAMSEY (OGC Nice), Joe MORRELL (Portsmouth), Harry WILSON (Fulham), Daniel JAMES (Fulham- On loan from Leeds United), Kieffer MOORE (AFC Bournemouth), Luke HARRIS (Fulham), Brennan JOHNSON (Nottingham Forest), Tom BRADSHAW (Millwall).
ROWND RAGBROFOL UEFA EURO 2024
Cymru v Latfia
- 19:45 Dydd Mawrth 28 o Fawrth
- Stadiwm Dinas Caerdydd
- Tocynnau ar gael yma