Mae Rob Page wedi cyhoeddi ei garfan o 28 o chwaraewyr ar gyfer gemau ail-gyfle UEFA EWRO 2024 Cymru, sydd yn dechrau efo gêm yn erbyn y Ffindir ar ddydd Iau 21 o Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae capten Cymru, Aaron Ramsey, wedi cael ei alw i fyny ar ôl colli gemau ym misoedd Hydref a Thachwedd oherwydd anaf. Mae sawl chwaraewr allweddol wedi gweld cynnydd yn ei munudau ar y cae ar gyfer ei clybiau yn dilyn symudion ym mis Ionawr, ac mae Rob Page wedi galw i fyny Rubin Colwill, Joe Low a Charlie Savage o’r tîm D21 wrth i Gymru edrych i gyrraedd eu trydedd rownd derfynol UEFA EURO yn olynol.
Bydd Ethan Ampadu a Daniel James yn gobeithio ennill eu 50fed capiau i Gymru dros y ddwy gêm nesaf, a bydd Rabbi Matondo a Dylan Levitt yn dychwelyd i’r garfan yn dilyn anafiadau.
Bydd dwy fuddugoliaeth yn y llwybr ail-gyfle yn sicrhau lle Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO 2024 yn yr Almaen dros yr haf. Bydd buddugoliaeth yn erbyn y Ffindir yn golygu gêm rownd derfynol yn erbyn enillydd y gêm rhwng Estonia a Gwlad Pwyl, gyda chollwyr y ddwy gêm hefyd yn chwarae ei gilydd. Bydd yr ail gêm yn digwydd ar ddydd Mawrth 26 o Fawrth o flaen Y Wal Goch yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cymru: Wayne HENNESSEY (Nottingham Forest), Danny WARD (Leicester City), Tom KING (Wolverhampton Wanderers), Adam DAVIES (Sheffield United), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Joe RODON (Leeds United, on loan from Tottenham Hotspur), Joe LOW (Wycombe Wanderers), Chris MEPHAM (Bournemouth), Ben CABANGO (Swansea City), Neco WILLIAMS (Nottingham Forest), Jay DASILVA (Coventry City), Connor ROBERTS (Leeds United- On loan from Burnley), Wes BURNS (Ipswich Town), Ethan AMPADU (Leeds United), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Dylan LEVITT (Hibernian), Jordan JAMES (Birmingham City), Charlie SAVAGE (Reading), Harry WILSON (Fulham), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Aaron RAMSEY (Cardiff City), Rabbi MATONDO (Rangers), David BROOKS (Southampton- On loan from Bournemouth), Daniel JAMES (Leeds United), Liam CULLEN (Swansea City), Rubin COLWILL (Cardiff City), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Kieffer MOORE (Ipswich Town, on loan from Bournemouth).