Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi am gemau agoriadol ymgyrch EWRO

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr wrth i Gymru edrych i gychwyn eu Rownd Ragbrofol UEFA EWRO yn erbyn Croatia yn y STōK Cae Ras, Wrecsam (Dydd Gwener 5 Ebrill) ac yn erbyn Kosovo yn Podujevo (Dydd Mawrth 9 Ebrill).

Gall Jess Fishlock fod y chwaraewr cyntaf erioed i chwarae 150 o weithiau i Gymru pe byddai’n chwarae ym mhob gêm, ac mae gan Rhian Wilkinson carfan cryf ar gael ar gyfer ei gemau cyntaf fel rheolwr, gan gynnwys Sophie Ingle ac Angharad James.

Ni fydd Safia Middleton-Patel a Carrie Jones ar gael oherwydd anafiadau, ond mae Wilkinson wedi dewis pum chwaraewr ifanc ar gyfer eu camp llawn cyntaf; Soffia Kelly, Mayzee Davies, Elena Cole, Mared Griffiths ac Ania Denham.

Bydd y gêm agoriadol yn gweld Cymru’n dychwelyd i’r STōK Cae Ras yn Wrecsam am y tro cyntaf rs mis Mawrth 2020 pan fyddant yn wynebu Croatia ar Ddydd Gwener 5 Ebrill (KO 19:15). Yn dilyn y gêm, bydd Cymru yn teithio i Kosovo ar gyfer eu hail g.m ar Ddydd Mawrth 9 Ebrill yn Stadiwm Zahir Pajaziti ym Mhodujevo (KO 13:00 BST). Mae esboniad llawn o’r ymgyrch ragbrofol ar gael yma.

Mae tocynnau ar gyfer y g.m yn Wrecsam ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, efo prisiau am £10 i oedolion a £5 i blant, a phris gostwng ar gael i aelodau o’r Wal Goch.

Cymru: Olivia CLARK (Bristol City), Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Soffia KELLY (FAW Girls Academy South), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Charlie ESTCOURT (Reading), Josie GREEN (Leicester City), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Manchester United), Mayzee DAVIES (Manchester United), Lily WOODHAM (Seattle Reign), Ella POWELL (Bristol City), Sophie INGLE (Chelsea), Alice GRIFFITHS (Southampton), Angharad JAMES (Seattle Reign), Elena COLE (FAW Girls Academy South), Lois JOEL (London City Lionesses), Rachel ROWE (Rangers), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Ellen JONES (Sunderland), Elise HUGHES (Crystal Palace), Mary MCATEER (Sunderland), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Mared GRIFFITHS (FAW Girls Academy North), Ania DENHAM (Wolverhampton Wanderers).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.