Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Carfan Merched D17 Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer Twrnamaint Cynghrair A UEFA

Mae Nia Davies wedi cadarnhau ei charfan ar gyfer gemau ragbrofol Rownd 2 Cynghrair A UEFA EURO Merched D17 Cymru.

Bydd Cymru yn wynebu Sweden (Dydd Llun 11 Mawrth), Norwy (Dydd Iau 14 Mawrth), a’r Swistir (Dydd Sul 17 Mawrth) allan yn Norwy. Bydd enillwyr y grŵp yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth UEFA EURO Merched D17 haf yma, sydd yn digwydd yn Sweden. Os bydd Sweden yn ennill y grŵp ragbrofol, bydd y tîm yn yr ail safle hefyd yn cadarnhau lle yn y rowndiau terfynol.

Mae 15 o chwaraewyr o system Academi Merched CBDC wedi derbyn galwadau. Wedi’u cyflwyno yn 2021 fel rhan o strategaeth y CBDC i ddatblygu llwybr clir ac effeithiol i chwaraewyr, mae Academi Merched CBDC yn cynyddu’r amser cyswllt efo’n chwaraewyr elît a darparu rhaglen o gemau gystadleuol iddynt ddatblygu. Yn ogystal â bod yn rhan o’r Academi, bu Soffia Kelly, Mared Griffiths ac Elena Cole yn rhan o’r tîm A fis diwethaf cyn iddyn nhw wynebu Gweriniaeth Iwerddon.

Cymru WU17: Soffia KELLY (FAW Girls Academy South), Yasmin DAVIES (Bristol City Women), Casi EVANS (FAW Girls Academy North), Mared GRIFFITHS (FAW Girls Academy North), Izzy CAUNT (FAW Girls Academy South), Shurima VINE (FAW Girls Academy South), Cadi RODGERS (FAW Girls Academy North), Teagan SCARLETT (Arsenal), Ruby DAY (Bristol City), Keira O’KEEFE (FAW Girls Academy South), Emily COLE (Everton), Somoraa FLETCHER (FAW Girls Academy South), Nia LEWIS (FAW Girls Academy South), Charlotte SALISBURY-WILLIAMS (FAW Girls Academy North), Elena COLE (FAW Girls Academy South), Casi GREGSON (FAW Girls Academy South), Ania DENHAM (Wolverhampton Wanderers), Evie SADLER (FAW Girls Academy North), Ffion BOWEN (FAW Girls Academy South), Lili ANGOVE (FAW Girls Academy South).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.