Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Chanolfan Gwasanaethau Pêl-Droed

Mae’r C.B.D.C (Cymdeithas Bêl-Droed Cymru) balch i gyhoeddi lansiad ei Chanolfan Gwasanaethau Pêl-droed newydd, fel rhan o’i hymdrechion parhaus i wella ymgysylltiad a chefnogaeth effeithiol i’r holl randdeiliaid ar bob lefel o’r gêm yng Nghymru.

Bydd y Ganolfan Gwasanaethau yn llinell gymorth uniongyrchol a hygyrch i randdeiliaid ar draws y gêm – boed fel chwaraewr/dyfarnwr/hyfforddwr neu swyddog clwb fel ychydig o enghreifftiau yn unig – i helpu gydag unrhyw ymholiadau neu anghenion cymorth sydd gennych o fewn y gêm.

Er efallai nad oes gan y tîm yr holl atebion ar y pwynt cyswllt cyntaf, y gobaith yw y bydd cyflwyno’r adnodd cymorth uniongyrchol a dynodedig hwn yn helpu i sicrhau bod gan bawb y gallu cysylltu’n well â’r CBDC, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi at Gymorth Cwsmeriaid wrth symud ymlaen. I gael yr help sydd angen ar bobl mewn materion ac ymholiadau o ddydd i ddydd sy’n codi yn y gêm yng Nghymru.

Gyda lansiad y tîm hwn, gallwch nawr gysylltu â’r CBDC rhwng 9yb – 8yh o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ogystal â 9yb – 5yp ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, sy’n cymryd mewn i ystyriaeth y natur drwm o weithgareddau pêl-droed sydd yn digwydd yng Nghymru yn hwyr ac ar y penwythnos.

Fel dywedodd Prif Swyddog Gweithredol CBDC, Noel Mooney, am y fenter hon, ‘Fel Cymdeithas rydym bob amser eisiau gwneud mwy i helpu ein rhanddeiliaid a dod yn Genedl sy’n Arwain y Byd ym mhopeth a wnawn. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Pêl-droed yn enghraifft fawr o hyn. Yn unol â’n Strategaeth, ‘Ein Cymru’, rydym am wneud pêl-droed y gamp fwyaf cynhwysol, hygyrch a llwyddiannus ym mhob rhan o Gymru. Mae gallu gwasanaethu a chefnogi pobl yn effeithiol yn rhan enfawr o hyn. 

Mae ein gweledigaeth yn syml: Cymru leol fyd-eang. Trwy gefnogi’r gêm leol a’i wneud yn llwyddiant, fe fydd y gêm yn tyfu ac yn fwy llwyddiannus yn eu hundod ar Lwyfan y Byd. Gyda’r lansiad hwn, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld gwelliant yn wasanaeth cwsmeriaid ar gyfer y gêm yng Nghymru a rhoi ein rhanddeiliaid at galon popeth a wnawn.

Ategodd Llywydd CBDC, Steve Williams, y teimlad hwn, gan ddweud ‘Fel Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rwy’n falch iawn o weld y camau cadarnhaol sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghenion cymorth ein rhanddeiliaid niferus yn y gêm yng Nghymru. Y bobl hyn yw enaid y gêm yng Nghymru, ac fel Cymdeithas mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi yn eu profiad yn y gymdeithas, er mwyn cynnal a thyfu’r gêm yng Nghymru.

Gobeithiwn fydd y tîm hwn yn dod yn enghraifft amlwg o’n hymrwymiad i’n rhanddeiliaid a ffurfio rhan bwysig o gyfnod deinamig a chadarnhaol i CBDC, wrth i ni barhau i wella’r ffordd yr ydym yn gweithredu ar draws y sefydliad. 

Os oes gennych ymholiad neu angen cefnogaeth, gallwch gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Pêl-droed ar 02922 672 252, neu drwy e-bost, fsc@faw.cymru. Os ydych chi’n ddefnyddiwr System Comet ar gyfer sefydliad yng Nghymru, gallwch hefyd logio tocyn cymorth yn uniongyrchol drwy’r System Comet ar gyfer cymorth.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.