Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn hynod falch o gyhoeddi Rhian Wilkinson fel Rheolwr Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru tan 2027.
Bu Wilkinson yn hyfforddwr ers iddi ymddeol fel chwaraewr yn 2017. Roedd ei swydd fwyaf diweddar hi yn Portland Thorns, lle wnaeth hi arwain y Thorns i ennill pencampwriaeth NWSL yn 2022. Roedd Wilkinson hefyd yn rheolwr i dimau Canada D17 a D20 ac wedi bod yn is-hyfforddwr i Loegr, Tîm DU yng ngemau Olympaidd 2011 ac i Ganada yng Nghwpan y Byd 2019. Fel chwaraewr, fe cynrychiolodd Wilkinson Canada 183 o weithiau, gan chwarae mewn pedair Cwpan y Byd a thri gêm Olympaidd.
Mae gan Wilkinson Drwydded UEFA A a Drwydded Canada A ac ar hyn o bryd mae hi ar raglen Drwydded Pro UEFA Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywedodd Wilkinson: “Mae’n anrhydedd enfawr i gymryd y swydd fel Rheolwr Cymru. Mae’r tîm wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf ac rwyf yn bwriadu adeiladu ar hynny efo’r nod i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO haf nesaf â’r dyfodol. Mae’r grŵp yma o chwaraewyr yn barod ac yn haeddu cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol, rwy’n edrych ymlaen at gwrdd nhw ac i weithio gyda nhw. Mae fy mam yn Gymraes, ac fe wnes i fyw yn nhe Cymru am ran o fy mhlentyndod. Rwy’n edrych ymlaen at ymrwymo fy hun efo ddiwylliant Cymru a dysgu mwy am yr ochr yna o fy etifeddiaeth.”
Yn sôn am y penodiad, dywedodd Llywydd CBDC, Steve Williams “Rwy’n hynod falch i groesawi Rhian i CBDC fel Rheolwr ein Tîm Menywod. Ar ôl gweld y tîm yn cryfhau a datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, ni nawr yn edrych ymlaen at weld y cam nesaf wrth i’r tîm ceisio rhoi Cymru ar ben y byd gan gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol am y tro gyntaf.”
Fe wnaeth Pennaeth Pêl-droed CBDC, Dr. David Adams, groesawu’r penodiad. “Roeddwn ni wedi trefnu proses drwyadl i ddarganfod ein Rheolwr newydd, ac roedd safon yr ymgeiswyr o’r safon uchaf. Mae CBDC wedi cymryd camau enfawr i dyfu gêm y merched yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar a bydd penodiad Rhian yn rhoi ni yn y lle gorau posib i gyrraedd pencampwriaeth EUROs haf nesaf, â’r blynyddoedd i ddod. Bydd cyrraedd pencampwriaeth ryngwladol yn cymryd pêl-droed merched yng Nghymru i’r lefel nesaf, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r cam nesaf ar y daith.”
Bydd Wilkinson yn Nulyn nos fory (Dydd Mawrth 27 Chwefror) ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, ac yna yn rheoli’r tîm ar gyfer y gemau ym mis Ebrill, pan fydd ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2025 yn dechrau. Bydd Cymru yn darganfod ei gwrthwynebwyr ar gyfer y rownd ragbrofol ar ddydd Mawrth 5 o Fawrth.