Bydd Cymru yn wynebu Gibraltar am y tro gyntaf erioed mewn gêm ‘A’ dynion ar ôl i’r gwledydd cytuno chwarae gem gyfeillgar ar ddydd Mercher 11 o Hydref.
Mae’r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd ar lefel D19 a D21 dros y flwyddyn ddiwethaf, a bydd y gêm yn Hydref yn cymryd lle yng nghanol rownd rhagbrofol UEFA EURO 2024, lle fydd Rob Page yn gobeithio gweld Cymru yn cyrraedd y bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol.
Bydd gwybodaeth stadiwm, amser KO a thocynnau yn cael ei gyhoeddi mor fuan â phosib. Mae tocynnau ar gyfer gêm gartref nesaf Cymru, yn erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd (19:45 Dydd Mawrth 28 o Fawrth), ar gael i archebu nawr i aelodau o’r Wal Goch.