Bydd carfan Cymru Gemma Grainger yn wynebu’r UDA, pencampwyr y byd, yn y Stadiwm PayPal yn San Jose, California, ar nos Sul 9 o Orffennaf (KO 21:00 BST).
Dyma’r tro gyntaf bydd y ddwy wlad yn cwrdd yng ngêm ryngwladol menywod a dyma fydd gêm ddiwethaf Cymru cyn i’r ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA dechrau ym mis Medi. Ar ôl y gêm bydd y UDA yn teithio i Awstralia a Seland Newydd ar gyfer Pencampwriaeth Cwpan y Byd Menywod FIFA.
Bydd gwybodaeth tocynnau ar gyfer cefnogwyr sydd yn bwriadu teithio i’r UDA yn cael ei rhyddhau mor fuan â phosib.
“Dywedodd Gemma Grainger “Mae’n gyfle gwych i chwarae yn erbyn pencampwyr y byd cyn iddyn nhw gystadlu yng nghwpan y byd. Mae’r ffaith wnaeth y UDA gofyn i chwarae ni yn ganmoliaeth enfawr i’n chwaraewyr, byddwn ni’n chwarae rhai o dimau gorau’r byd yng Nghynghrair y Cenhedloedd hwyrach eleni, felly bydd y gêm yn gyfle da i baratoi ar gyfer hynny.”
Gemma Grainger