Bydd Cymru yn wynebu Slofacia mewn gêm gyfeillgar ar ddydd Sul 9 o Fehefin.
Fe wnaeth y ddau dîm gyfarfod yn y gemau rhagbrofol i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO 2020 nol yn 2019. Sgoriodd Dan James i sicrhau buddugoliaeth 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a wnaeth Kieffer Moore sgorio yn gêm 1-1 yn Trnava.
Gyda thîm Rob Page yn paratoi ar gyfer y gemau ail-gyfle i gyrraedd UEFA EURO 2024, mae Slofacia wedi cyrraedd y bencampwriaeth yn barod, a fydd yn dechrau yn yr Almaen pum diwrnod ar ôl y gêm gyfeillgar.
Bydd y gêm yn cymryd lle yn Bratislava neu Trnava, a fydd gwybodaeth tocynnau yn cael ei gadarnhau cyn gynted â phosib.