Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Gemau a lleoliadau wedi’i cyhoeddi ar gyfer gemau ragbrofol EURO 2025

Bydd y Stadiwm STōK Cae Ras yn Wrecsam yn cynnal y gêm agoriadol i Gymru yn Rownd Ragbrofol UEFA EURO 2025 mis nesaf pan fydd carfan Rhian Wilkinson yn wynebu Croatia ar ddydd Gwener 5 Ebrill (KO 19:15).

Chwaraeodd Cymru ddiwethaf yn Wrecsam ym mis Mawrth 2020, gan guro Estonia 2-0 mewn gêm gyfeillgar o flaen dros 2,000 o gefnogwyr. Bydd Wilkinson a’r chwaraewyr yn gobeithio bydd y Wal Goch yn troi allan yn eu niferoedd i gefnogi’r tîm yn y gogledd.

Yn dilyn y gêm, bydd Cymru wedyn yn teithio i Kosovo ar gyfer eu hail gêm ar ddydd Mawrth 9 Ebrill yn Stadiwm Zahir Pajaziti yn Podujevo.

Bydd y gweddill o gemau cartref Cymru yn yr ymgyrch yn cael eu cynnal ym Mharc y Scarlets, Llanelli yn erbyn Wcráin ar ddydd Gwener 31 Mai, a Kosovo ar gyfer gêm derfynol yr ymgyrch ar ddydd Mawrth 16 Gorffennaf. Chwaraeodd Cymru ddiwethaf ym Mharc y Scarlets am dair gêm yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2019, efo’r dorf yn fwy na dyblu rhwng y gêm gyntaf a’r trydedd gêm, gan gyrraedd mwy dros 4,000.

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Rhian Wilkinson “Nawr ein bod ni’n gwybod ein gemau a’n lleoliadau, rwyf wir yn edrych ymlaen at ddechrau gyda’r tîm. Mae hanes pêl-droed cryf iawn efo Cymru yn chwarae yn Wrecsam ac rwy’n gyffrous i weld y croeso a’r cyffro yn yr ardal, yn enwedig ar hyn o bryd o gwmpas pêl-droed. Mae’r chwaraewyr hefyd wedi cael profiadau gwych o chwarae yn Llanelli dros y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n gobeithio gallwn ni dyfu ein cefnogaeth yn y gorllewin gyda’n gemau yno yn ystod yr haf. Mae’r Wal Goch yn chwarae rhan enfawr yn ein llwyddiant ac rydym ni gyd yn edrych ymlaen at eu gweld nhw unwaith eto yn ein gemau.”

Bydd Cymru hefyd yn cael dau gêm oddi cartref ym mis Mai a Gorffennaf, yn erbyn Wcráin (Dydd Mawrth 4 Mehefin) a Croatia (Dydd Gwener 12 Gorffennaf).

Bydd gwybodaeth tocynnau ar gyfer y gemau yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.