Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Gwella Bywydau Drwy Bêl-droed – Strategaeth Llawr Gwlad CBDC

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhyddhau ei strategaeth bêl-droed llawr gwlad gyntaf – Gwella Bywydau Drwy Bêl-droed.

Bydd y strategaeth chwe blynedd newydd yn tyfu a datblygu’r gêm, gan ganolbwyntio ar y bobl sy’n darparu pêl-droed cymunedol ar ac oddi ar y cae, sy’n cynyddu cyfranogiad ar bob lefel, gwella ymddygiadau, a gwella hygyrchedd i’r gêm.

Wrth ddatblygu Gwella Bywydau Drwy Bêl-droed, mae CBDC wedi ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i gael cipolwg ar yr heriau presennol ar draws pêl-droed llawr gwlad.

Bydd CBDC yn defnyddio pŵer pêl-droed i wella bywydau ym mhob cymuned, gan gefnogi clybiau i ddod yn gynaliadwy, yn addasadwy ac yn canolbwyntio ar y gymuned; gwella ansawdd a mynediad at gyfleusterau; yn ogystal â chreu cymuned bêl-droed llawr gwlad amrywiol a chynhwysol.

Mae’r strategaeth yn nodi chwe nod strategol sy’n canolbwyntio ar bobl, chwaraewyr, clybiau, cynghreiriau, ymddygiadau a chyfleusterau. Bydd CBDC yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i gyflawni cyfres o fesurau llwyddiant uchelgeisiol:

  • Dyblu nifer y gwirfoddolwyr ‘oddi ar y cae’
  • Dyblu nifer yr hyfforddwyr sy’n fenywod ac/neu o gefndiroedd ethnig amrywiol
  • Cynnydd o 20% yn nifer y gemau llawr gwlad sy’n cael eu gweinyddu gan ganolwr cymwys
  • 100% o glybiau i gael cynllun datblygu clwb
  • Cynnydd o 50% yn nifer y merched sy’n chwarae rhwng 5-11 oed
  • Gostyngiad o 50% yn nifer y chwaraewyr rhwng 12-17 oed sy’n gadael y gêm
  • Dyblu nifer yr oedolion cofrestredig sy’n chwarae pêl-droed hamdden

O dan y nodau strategol mae yna pum galluogwr sy’n ymdrin â chyfathrebu a marchnata, cynhyrchion digidol a thechnoleg, partneriaethau cryf, data a mewnwelediad, a buddsoddiad newydd.

Dros y chwe blynedd nesaf a hyd oes y strategaeth hon, mae gennym y cyfle a’r cyfrifoldeb i ddatblygu, trawsnewid ac ysbrydoli pêl-droed llawr gwlad.

Dywedodd Ben Field, Pennaeth Bêl-droed Llawr Gwlad CBDC: “Gall pêl-droed wella bywydau ym mhob cymuned a thrwy’r strategaeth chwe blynedd hon, gyda’n gilydd byddwn yn creu cymunedau cryfach, iachach a chysylltiedig.

“Byddwn yn gwneud hyn drwy ddatblygu pobl, cynyddu cyfranogiad, creu clybiau pêl-droed cryf, cynaliadwy a chynhwysol. Rydym hefyd eisiau gweld cynghreiriau modern a hyblyg gydag agweddau mwy cadarnhaol ar ac oddi ar y cae.”

Cyn lansio Gwella Bywydau Drwy Bêl-droed, mae CBDC wedi bod yn ychwanegu cefnogaeth i’w thîm llawr gwlad i gynorthwyo clybiau ledled y wlad ac i helpu gyda chyflawni’r strategaeth.

Ychwanegodd Field: “Mae gan CBDC dîm o saith Datblygwr Clwb sydd wedi’u lleoli o fewn y 6 Cymdeithas Ardal ranbarthol. Eu prif gyfrifoldeb yw cefnogi clybiau gyda’u gofynion ‘oddi ar y cae’, e.e. datblygiadau mewn cyfleusterau, recriwtio gwirfoddolwyr, cadw a datblygu, a gwella llywodraethant.

“Gall clybiau hefyd gael mynediad i lyfrgell o adnoddau ar-lein o’r llwyfan ‘Clwb Cymru’ CBDC. Adnoddau digidol am ddim sy’n rhoi arweiniad ar nifer o faterion sy’n ymwneud â chlybiau, gan gynnwys denu a chadw gwirfoddolwyr, rheoli a datblygu cyfleusterau, ymgysylltu’n well â’r gymuned leol a llywodraethau cyfreithiol, ymhlith pynciau eraill.”

Yn y cyfamser, esboniodd Capten Tîm Cenedlaethol Cymru, Aaron Ramsey, bwysigrwydd bêl-droed llawr gwlad i’w blant: “Maen nhw wrth eu boddau. Maen nhw wedi cymryd rhan, wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn ffynnu, yn caru pob munud.

“Rwy’n mwynhau gweld nhw’n chwarae a gwneud yr hyn gwnaeth fy rhieni gyda mi. Mae fy nhad yn ail-fyw’r holl beth eto drwy’i wyrion hefyd, felly mae’n wych.”

Mae Ramsey wedi mwynhau gyrfa ddisglair ac yn gwybod bod dechrau ar lefel llawr gwlad yn hynod bwysig i bopeth a ddilynodd wedyn: “Rwy’n credu bod llawer o bobl broffesiynol mewn unrhyw chwaraeon yn dechrau yn ifanc iawn, ac mae’n debyg eu bod nhw gyd yn dechrau ar lefel lawr gwlad. Rwy’n credo ei fod yn rhoi sylfaen dda a’r hanfodion sydd eu hangen i ddatblygu.”

Gellir cyrchu strategaeth llawr gwlad Gwella Bywydau Drwy Bêl-droed ar gyfer 2024-2030 yn: grassroots.faw.cymru

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.