Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Peldroedwyr blaenllaw Cymru yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd

Mewn fideo arbennig, mae chwaearaewyr Cymru, Ben Davies, Joe Morrell, a David Brooks yn rhannu cynghorion syml i helpu menywod i deimlo’n ddiogel ac yn trafod pwysigrwydd dynion yn siarad â’I gilydd am ymddygiadau perthynas iach.

I nodi Diwrnod Rhuban Gwyn 2023, sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o ac yn gweithredu i roi terfyn ar drais dynion at fenywod a merched, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi partneru â’r ymgyrch Iawn a lansiwyd yn ddiweddar i gychwyn sgwrs am drais seiliedig ar rywedd.

Mae’r penwythnos hwn hefyd yn cyd-daro a Diwrnod Rhyngwladol Rhoi Terfyn ar Drais Yn Erbyn Menywod (Tachwedd 25), sy’n nodi dechrau 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais seiliedig ar rywedd.

Mewn fideo YouTube a RedWall+ 15 munud, fydd hefyd yn cael ei gynnwys ar sianelau cymdeithasol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Iawn, mae’r chwaraewyr yn sgwrsio â’i gilydd am ddylanwad ffigurau  ‘gorwrywaidd’ ar gyfryngau cymdeithasol, yr hyn y gall dynion ei wneud i helpu menywod i deimlo’n ddiogel, a’r pwysigrwyddd o gael sgyrsiau agored â ffrindiau a chydweithwyr gwrywaidd – gan gynnwys cydaelodau’r tîm.

Y triawd yw llysgenhadon cyntaf Cymru i’r ymgyrch Iawn, prosiect wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o ymddygiadau baner goch cynnar mewn perthnasoedd trwy ‘siarad am’ bryderon â ffrindiau, cael ‘cymorth iawn’ o ffynonellau dibynadwy a sicrhau bod ‘popeth yn iawn’ trwy fodelu ymddygiadau cadarnhaol ym mywyd pob dydd. 

Yn ystod y sgwrs, myfyriodd Ben Davies, a briododd ei bartner Emily yn 2022 ac a ddaeth yn dad am y tro cyntaf yn ddiweddar, ar ei berthynas ei hun gan ddweud “y rheswm mae ein perthynas gystal, yw oherwydd ein bod yn agored â’n gilydd, rydym yn onest â’n gilydd ac rydym yn cefnogi’n gilydd. Mae cyfathrebu da yn allweddol, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig fod hyn gyda ni yn yr ystafell newid hefyd. Mae’n debygol mod i’n treulio cymaint o amser gyda fy ngwraig â rydw i’n ei wneud â’r bechgyn yn yr ystafell newid bêl-droed. Mae creu’r perthnasoedd hynny yn bwysig iawn, gallu ymddiried a gallu agor eich hun i bobl eraill i’ch helpu chi, mae’n beth enfawr.”

Soniodd David Brooks am bwysigrwydd cyfathrebu, gan fyfyrio ar ei ddiagnosis o ganser yn 2021.

“Mae’n cael ei ystyried i fod ‘yr hyn rwy’n mynd drwyddo’ a’r anawsterau a gefais i. Ond i mi yn byw trwyddo, doeddwn i ddim yn cael hynny’n heriol yn feddyliol, yn amlwg roedd yn drwm yn gorfforol ond roedd rhaid i Flora fy ngweld i bob dydd, a doedd hi ddim am osod baich arnaf i felly cafodd effaith arni hi. Mae’n dangos bod yr hyn rydych yn mynd drwyddo yn gallu effeitio ar eraill hefyd, a bod cyfathrebu yn bwysig i gael y cymorth oedd ei angen arni iddi trwy’r broses hefyd.

“Rydw i hefyd wedi gorfod dysgu peidio â mynd â phethau gwaith adref, er enghraifft os ydw i wedi cael diwrnod drwg iawn, os nad ydw i’n chwarae neu’n hyfforddi’n dda iawn ac yn y rhigol honno, i beidio â mynd ag e adref a chwyno am y peth â rhywun o fy nghwmpas i.”

Rhan allweddol o’r ymgyrch Iawn yw sgyrsiau adeiladol a gonest â ffrindiau a all fod yn dangos ymddygiadau baner goch, yn ogystal â hunanfyfyrio ar berthnasoedd. 

Dywedodd Joe Morrell: “Rwy’n meddwl bod hunanfyfyrio yn bwysig iawn, ac weithiau mae’n gallu bod yn anodd iawn. Mae’n bwysig i fyfyrio ar sut rydych yn cyfathrebu a sut rydych chi’n byw eich bywyd. Yn sicr mae’n gallu bob yn anodd ac yn sicr mae’n debygol o fod yn rhywbeth nad ydw i’n rhyfeddol yn ei wneud.”

Ychwanegodd e: “Mae’r bobl o’ch cwmpas yn adlewyrchiad ohonoch chi. Mae ffrind da yn dod o dan sawl ymbarél. Mae tynnu eu sylw at rywbeth pan fydd angen yn sicr yn rhan o hynny”.

Cytunodd David Brooks, gan ddweud, “Pe byddai rhai o fy ffrindiau yn ymddwyn mewn ffordd benodol allan yn gyhoeddus, neu yn eu perthnasoedd, buaswn i’n eu beirniadu amdano. Rydych chi ond gystal â’r cwmni rydych yn ei gadw.”

Myfyriodd Ben Davies ar hyfforddfiant mae ei glwb, Tottenham Hotspur, wedi rhoi yn ddiweddar i chwaraewyr i helpu menywod deimlo’n ddiogel mewn mannau cyhoeddus ac mewn gemau.

“Dim ond pethau bach oedden nhw fel gwneud eich hyn yn hawdd mynd ato, peidio â bod yn rhy afreolus os ydych mewn grŵp, meddwl am sut mae eich geiriau a’ch gweithredoedd yn gwneud i fenyw deimlo. Hyd yn oed os yw’n groesi’r stryd i ffwrdd oddi wrth y fenyw i wneud iddi deimlo’n fwy cyfforddus, pethau bach fel hynny sydd, yn enwedig yn y nos yn gallu cael effaith mor enfawr.

“Gall fod yn frawychus iawn i fenywod wrth gerdded adref o’r gwaith, neu, gerdded ar ei phen ei hun ar ôl gemau gyda’r nos. Mae angen i ddynion fod yn ymwybodol o weithredoedd syml y gallwch eu cymryd dim ond i wneud i fenywod deimlo’n fwy cyfforddus, oherwydd fel dynion, nid ydym yn ei sylweddoli gymaint, ond os ydych chi’n cerdded adref gyda’r nos ar eich pen eich hun ac rydych chi’n clywed ar y newyddion storïau am fenywod yn cael eu cipio neu eu lladd, mae’n ofnadwy ac mae’n beth go frawychus. Mae gen i chwaer ieuengach; alla i ddim dychmygu sut mae hi iddi bryderu am gymryd tro bach adref. Ni ddylai bywyd fod yn brofiad caled brawychus.”

Ers lansio yng Ngorffennaf, mae Iawn wedi cyrraedd 327,000 o ddynion 18 – 34 oed yng Nghymru, gyda nifer yn estyn allan i geisio cyngor yn uniongyrchol o sianelau ymgyrch.

Ochr yn ochr â chefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chwaraewyr Cymru i ymgyrch Iawn, cyflwynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddar eu gêm Gymhwyso UEFA EURO tîm dynion Cymru yn erbyn Türkiye i Addewid Rhuban Gwyn, gan ailadrodd yr Addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney:

“Rydym yn anhygoel o falch o’n chwaraewyr Cymru Ben Davies, David Brooks, a Joe Morrell am eu cefnogaeth o ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru ac am amlygu’r pwysigrwydd o ddynion yn siarad â’i gilydd i roi terfyn ar ymddygiadau niweidiol. 

“Rydym yn gobeithio y bydd y sgyrsiau rhwng ein chwaraewyr yn annog llawer o ddynion eraill i estyn allan at eu ffrindiau neu geisio cyngor dibynadwy, cadarn ar sut i fynd i’r afael â’r fath ymddygiadau a sut i greu amgylchedd lle mae menywod yn gallu teimlo’n ddiogel.” 

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Mae’n wych i weld peldroedwyr Blaenllaw Cymru yn cefnogi’r ymgyrch Iawn ac yn siarad am eu profiadau o helpu menywod i deimlo’n ddiogel.

“Mae’r ymgyrch Iawn yn dangos nad oes gwahaniaeth lle rydych yn gweld ymddygiadau niweidiol, naill ai yn yr ystafelloedd newid neu ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n rheidrwydd i chi ei gydnabod  a siarad amdano.

“Mae Ein Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn dangos ein hymrwymiad i atal ac ymyrraeth gynnar i dorri’r cylch o drais.”   

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.