Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf erioed Cymru, Sophie Howe, wedi ymuno â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) fel cynghorydd cynaliadwyedd. Bydd Sophie yn gweithio gyda’r Gymdeithas ar weithredu Strategaeth Cynaliadwyedd CBDC 2030, ‘Cymru, llesiant a’r byd’, yn ogystal â chadeirio’r PanelCynghori ar Gynaliadwyedd newydd sbon.
Datblygwyd strategaeth ‘Cymru, llesiant a’r byd’ CBDC mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru tra roedd Sophie wrth y llyw, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) fel ei chonglfaen. Mae’r Gymdeithas wedi mynd ati i fabwysiadu ysbryd arloesol y ddeddf gyda’i huchelgais i arwain y ffordd mewn cynaliadwyedd ym myd chwaraeon, a phwysleisio’r esiampl y gall pêl-droed ei chwarae mewn cenedl fach, i ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Mae strategaeth ‘Cymru, llesiant a’r byd’ yn adeiladu ar gynllun strategol ‘Ein Cymru’ y gymdeithas, sy’n amlinellu chwe philer strategol i adeiladu cymdeithas gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r strategaeth yn gynllun gweithredu clir ar gyfer CBDC i ddatblygu clybiau, cynghreiriau a mentrau cynaliadwy a chryfach ar draws saith maes ffocws; tîm, iechyd, strwythurau, cyfleusterau, partneriaethau, datgarboneiddio a chroeso. Mae’r camau’n amrywio ac yn cynnwys popeth o adolygu prosesau caffael i sefydlu cynlluniau cyfnewid ar gyfer citiau ac offer pêl-droed, creu cronfa i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn clybiau a chanfod deunydd pecynnu bwyd lleol, di-blastig, wedi’i wneud o blanhigion ar gyfer yr ecosystem pêl-droed. Bydd cynllun peilot yn sefydlu canolfan llesiant pêl-droed mewn bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau clinigol, gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl a llesiant, cyn ei gyflwyno ar hyd a lled y wlad, tra bydd clybiau a chynghreiriau yn cael eu gefeillio ag eraill ar draws y byd i ddysgu a rhannu. Yn ogystal, mae’r Gymdeithas yn ystyried hyrwyddo fformatau cymryd rhan ac arddulliau pêl-droed newydd er mwyn ei gwneud yn haws i bawb chwarae pêl-droed.
Meddai Sophie Howe: “Nod Cymru yw bod ar flaen y gad ar y cae ac oddi arno, a dyna pam mae’r gymdeithas yn rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wraidd y strategaeth gynaliadwyedd hon. Rwy’n gwybod bod CBDC wedi ymrwymo i ddiogelu anghenion a buddiannau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac i greu byd gwell i’r rhai sydd eto i’w geni. Edrychaf ymlaen at weithio fel Cynghorydd Cynaliadwyedd ynghyd â staff, chwaraewyr, partneriaid a’r teulu pêl-droed ehangach i wneud Cymru’r gymdeithas chwaraeon fwyaf cynaliadwy yn y byd.”
Meddai cadeirydd CBDC, Alys Carlton: “Mae Sophie Howe wedi gweithio’n agos gyda CBDC ar ein strategaeth gynaliadwyedd o’r camau datblygu cynnar ac felly mae hi’n bartner naturiol i ni wrth ei chyflawni. Rôl Sophie fydd cadeirio’r panel cynghori sy’n dod â nifer o bobl gydag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd, i’n cynghori ar arfer gorau a datblygiadau arloesol o ran cynaliadwyedd ac i’n cysylltu â phartneriaid a rhwydweithiau o bob cwr o’r byd sydd eisiau ymuno â ni ar ein taith gynaliadwyedd. Rydym yn hynod gyffrous i groesawu Sophie i’r rôl hon sy’n dod â’i harbenigedd a’i rhwydweithiau i’r gwaith o weithredu a darparu ‘Cymru, llesiant a’r byd’.”
Meddai Harrison Clayton, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid CBDC: “Ein nod yn y Gymdeithas yw diwallu anghenion y presennol tra hefyd yn diogelu’r gallu i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Rhaid i hyn fod yn ganolog i bob un o’n penderfyniadau, boed yn rhai mawr neu fach, ac mae angen i bob un ohonom ni, ar draws y teulu pêl-droed cyfan, feddwl a gweithredu fel hyn. Mae’n wych y byddwn yn gweithio tuag at y nod hwnnw gyda chefnogaeth Sophie Howe fel ein Cynghorydd Cynaliadwyedd gyda’i chyfoeth o arbenigedd, gwybodaeth a rhwydweithiau. Mae’r Cyngor Ieuenctid yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Sophie i wneud yn siŵr bod gwaith CBDC yn gadael gwaddol cadarnhaol iawn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”