Carfan Cymru wedi’i cyhoeddi ar gyfer gemau ragbrofol EURO olaf yr ymgyrch

Mae Rhian Wilkinson wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr wrth i Gymru edrych i orffen eu grŵp rhagbrofol EURO 2025 ar nodyn uchel i ffwrdd yn erbyn Croatia yn Karlovac (dydd Gwener 12 Gorffennaf) ac yn erbyn Kosovo ym Mharc y Scarlets, Llanelli (dydd Mawrth 16 Gorffennaf).

Mae gan Wilkinson carfan bron llawn i ddewis ohoni, er hynny mae Josie Green yn colli allan gyda’r un anaf a’i harbedodd rhag chwarae yn y gemau ym mis Mehefin. Mae pum chwaraewr ddi-gap wedi cael eu henwi yn y garfan, gan gynnwys yr amddiffynwyr Amy Richardson a Cadi Rodgers sydd wedi’u galw i fyny i dîm Wilkinson am y tro cyntaf. Mae’r ddau chwaraewr wedi cynrychioli timau dan oedran Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Gyda lle yn y gemau ail-gyfle eisoes wedi’i gadarnhau, bydd dwy fuddugoliaeth yn y gemau Orffennaf yn sicrhau’r safle cyntaf yn y grŵp rhagbrofol ac yn gwarantu lle wedi’i hadu ar gyfer rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle. Bydd y proses i gadarnhau’r llwybr ail-gyfle yn cymryd lle ar ddydd Gwener 19 Gorffennaf, gyda mwy o wybodaeth am y broses ar gael ar wefan UEFA.

Fe wnaeth Cymru chwarae yn erbyn y ddau dîm ar ddechrau’r ymgyrch, gyda buddugoliaethau o 4-0 a 6-0 yn erbyn Croatia yn Wrecsam a Kosovo yn Podujevo. Ar hyn o bryd mae Croatia ar frig y grŵp gyda Chymru un pwynt y tu ôl iddyn nhw, tra bod Kosovo ar waelod y grŵp.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn Llanelli (Cic gyntaf 6:00pm) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau CBDC, yn costio £10 i oedolion a £5 i blant, gyda phrisiau gostwng ar gael i aelodau’r Wal Goch.

Cymru: Olivia CLARK (Bristol City), Laura O’SULLIVAN (Gwalia United), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Rhiannon ROBERTS (Real Betis), Charlie ESTCOURT (Reading), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Manchester United), Mayzee DAVIES (Manchester United), Amy RICHARDSON (Celtic), Cadi RODGERS (FAW Girls Academy North), Tianna TEISAR (Bristol City), Lily WOODHAM (Seattle Reign), Ella POWELL (Bristol City), Sophie INGLE (Chelsea), Alice GRIFFITHS (Southampton), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Unattached), Rachel ROWE (Southampton), Carrie JONES (Bristol City), Ffion MORGAN (Bristol City), Jess FISHLOCK (Seattle Reign), Ceri HOLLAND (Liverpool), Ellen JONES (Sunderland), Kayleigh BARTON (Charlton Athletic), Mary MCATEER (Sunderland), Mared GRIFFITHS (FAW Girls Academy North).

Prynnwch tocynnau yma

Cymru v Kosovo

6pm dydd Mawrth 15 Gorffennaf

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.