Y dudalen olaf wrth i amser Rob Page ddod i ben

Mae cyfnod Rob Page fel prif hyfforddwr Cymru wedi dod i ben ar ôl canlyniadau siomedig ym mis Mehefin ac ar ôl methu cyrraedd pencampwriaeth EWRO 2024.

Cymro balch a brwdfrydig, ganwyd a magwyd Page yn y Rhondda a chwareodd 41 o weithiau i Gymru fel amddiffynwr rhwng 1996 a 2005. Disgrifiodd gapteinio’r tîm yn erbyn Hwngari ar ei 36fed cap ym mis Chwefror 2005 fel “uchafbwynt fy ngyrfa ryngwladol” wrth edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth o 2-0 yng Nghaerdydd. Penodwyd Page yn rheolwr tîm D21 Cymru yn 2017, a symudodd i fyny i’r tîm cyntaf fel cynorthwyydd i Ryan Giggs ym mis Awst 2019.

Penodwyd Page fel rheolwr Cymru ar sail dros dro ym mis Tachwedd 2020. Dros y misoedd nesaf, arweiniodd Page ei garfan i ddyrchafiad yn Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ac i bencampwriaeth UEFA EWRO 2020 lle aethant ymlaen o’r grŵp cyn colli yn y Rownd o 16 yn erbyn Denmarc. Gorffennodd yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, ac yna fe wnaeth Page a’i garfan sicrhau lle yng Nghatar gyda buddugoliaeth enwog yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Awstria ac Wcráin.

Yn dilyn y fuddugoliaeth 1-0 yng Nghaerdydd, penodwyd Page fel rheolwr ar sail parhaol a llofnododd gytundeb pedair blynedd a fyddai’n cynnwys EWRO 2024 a Chwpan y Byd 2026. “Nid oes anrhydedd mwy na hyfforddi eich tîm cenedlaethol ac ni allaf aros am yr her y bydd y pedair blynedd nesaf yn ei dod, gan ddechrau gyda’n Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.” meddai ar y pryd. “Mae hwn yn amser cyffrous ar gyfer pêl-droed Cymru ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud y wlad yn falch ym mis Tachwedd ac yna parhau ein llwyddiant drwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau rhyngwladol yn y dyfodol.”

Er gwaethaf cyrraedd llwyfan y byd am y tro cyntaf ers 1958, byddai’r pencampwriaeth yn siomedig iawn wrth i Gymru orffen ar waelod eu grŵp gyda dim ond un pwynt. Marciodd y pencampwriaeth ddiwedd nifer o yrfaoedd rhyngwladol, yn fwyaf nodedig y chwaraewr canol cae Joe Allen a’r chapten Gareth Bale, ac roedd yn amlwg y byddai’n rhaid i Page ail-grwpio ac ail-adeiladu ei dîm i symud ymlaen. Gyda chwaraewyr talentog yn dod i’r amlwg drwy’r timau dan oedran, byddai enwau newydd yn dod i’r amlwg o flaen yr ymgyrch rhagbrofol nesaf.

Fe wnaeth y ffocws ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd gweld Cymru’n colli ei lle yng Nghynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA. Er gwaethaf gorffen yn y trydydd safle yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer EWRO 2024, ymgyrch a oedd yn cynnwys fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Croatia ond hefyd colled o 4-2 gartref yn erbyn Armenia, cawsant cyfle arall trwy’r gemau ail-gyfle i sicrhau eu lle yn yr Almaen. Dilynwyd buddugoliaeth campus dros y Ffindir yn y rownd gyn-derfynol ac yna golled dorcalonnus ar ôl ciciau o’r smotyn yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd. Er hynny, arosodd Page yn ddewr gyda chefnogaeth y FAW, ac yn gyflym newidiodd ei sylw at y gemau cystadleuol nesaf a’r pencampwriaeth rhyngwladol nesaf.
 
Page yw’r unig reolwr yn hanes sydd wedi arwain Cymru i rowndiau terfynol dwy pencampwriaeth rhyngwladol, tra bod ei ymgyrch ragbrofol lwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022 wedi gwneud ef y rheolwr cyntaf ers Jimmy Murphy, hefyd o’r Rhondda, yn 1958 i gyflawni’r gamp arbennig honno.
 
Roedd John Toshack yn rheolwr Cymru rhwng 2004 a 2010, ac yn ystod y cyfnod hwnnw aberthodd ei lwyddiant ei hun i ddod â chenedlaethau euraidd o sêr a fyddai’n serenu’n EWRO 2016. Cafodd Coleman ffrwyth y llafur ac fe barhaodd y broses drwy gyflwyno chwaraewyr fel Ethan Ampadu a David Brooks i’r tîm cyntaf. Yn dilyn y Cwpan y Byd diwethaf, fe wnaeth Page y dasg o gyflwyno’r gyda’r genhedlaeth nesaf mewn i’r garfan, ac mae perfformiadau chwaraewyr fel Jordan James yn ystod yr ymgyrch diwethaf yn dyst i’r sylfaen cadarn y mae Page wedi’u gosod ar gyfer y dyfodol.
 
Wrth i Gymru symud i gyfeiriad newydd nawr, mae chwaraewyr fel Charlie Savage, Lewis Koumas, Charlie Crew a Fin Stevens wedi cael eu blas cyntaf o’r gêm ryngwladol drwy Page a byddant yn ffurfio rhan bwysig o’r tîm cenedlaethol am y degawd neu fwy nesaf. Fel Toshack, ni fydd cyfraniad ddiweddaraf Page yn cael ei sylweddoli am nifer o flynyddoedd i ddod. Mae safon uchel wedi’i osod ar gyfer Cymru yn y blynyddoedd diweddar, ac er bod Page wedi chwarae rhan allweddol yn hynny, ei olynydd sydd bellach yn etifeddu’r lefel honno o ddisgwyliad.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.