Rhian Wilkinson yn ymweld ag Ysgol Bro Myrddin cyn gemau ragbrofol EURO

Gyda llai na phythefnos i fynd cyn gêm olaf Cymru yn y rownd ragbrofol UEFA EURO yn erbyn Kosovo ym Mharc y Scarlets (6pm Dydd Mawrth 16 Gorffennaf), mae clybiau ac ysgolion ar draws y wlad wedi bod yn danfon eu harchebion grŵp i gefnogi Cymru.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o archebion grŵp o gymharu â’r gêm diwethaf yn Llanelli ym mis Mai, gyda’r gêm nesaf yn syrthio yn yr wythnos olaf cyn gwyliau’r haf. Mae’r cynnig archebion grŵp yn rhoi cost ostyngol ar docynnau ac ar gael i ysgolion, clybiau ac unrhyw unigolyn sydd eisiau prynu 10 neu fwy o docynnau.

Un o’r ysgolion a fydd yn y gêm fydd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin o Gaerfyrddin. Trefnodd yr ysgol eu taith gyntaf i gêm tîm Merched Cymru ym mis Hydref 2022 ar gyfer y gêm ail gyfle Cwpan y Byd FIFA yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a bydd y gêm yn Llanelli yn llawer nes at adref i’r disgyblion.

Fe wnaeth Rhian Wilkinson ymweld â’r ysgol yr wythnos hon i ddiolch i’r disgyblion a’r staff am fynychu’r gêm, gan gynnal sesiwn hyfforddi i ferched sy’n chwarae i timau’r ysgol. Ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Pennaeth Dr. Llinos Jones “Roedd hi’n profiad arbennig iawn i’r merched heddiw i gael sesiwn hyfforddi gyda prif hyfforddwraig tim merched Cymru – athrawes/hyfforddwraig ysbrydoledig.  Diolch yn fawr iawn, ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn i cefnogi’r tîm yn erbyn Kosovo.” 

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio tyfu ar y dorf o 4,046 a oedd yn y gêm yn erbyn Wcráin ym mis Mai, gan osod y nod uchelgeisiol o guro’r record am y nifer mwyaf o dorf yn gêm ryngwladol Menywod y tu allan i Gaerdydd (5,982). Mae Rhian Wilkinson yn credu bod y Wal Goch yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y tîm “Roedd y dorf ar gyfer y ddau gêm gyntaf o’r ymgyrch yn arbennig, fel chwaraewyr a staff rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth. Mae ymweld ag ysgolion fel Bro Myrddin mor bwysig i ddiolch i’r rhai sy’n gwneud yr ymdrech i’n cefnogi, ac mae’n dangos pa mor bwysig yw’r tîm hwn i’r wlad.”

“Oes rydych chi wedi ein cefnogi Cymru o’r blaen neu’n dod am y tro cyntaf, mae eich cefnogaeth yn golygu popeth i ni, ac ni allwn aros i weld pawb ym Mharc y Scarlets ar 16 Gorffennaf.”

Archebion grŵp

Gellir gwneud archebion grŵp trwy lenwi’r ffurflen archebu isod a’i danfon i tickets@faw.co.uk, gyda’r tocynnau yn costio £8 i oedolion a £3 i blant. Y dyddiad cau ar gyfer danfon archebion grŵp yw 5pm Dydd Gwener 5 Gorffennaf.

Ffurflen archebu Kosovo

Tocynnau unigol

Mae tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Kosovo yn Llanelli ar Ddydd Mawrth 16 Gorffennaf (KO 6:00pm) ar gael i’w prynu ar wefan docynnau FAW, yn costio £10 i oedolion a £5 i blant, gyda gostyngiadau ar gael i aelodau Wal Goch.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.