Carfan Cymru wedi’i chyhoeddi i wynebu Gibraltar a Slofacia

Mae Rob Page wedi cyhoeddi carfan 25-chwaraewr ar gyfer gemau Cymru yn erbyn Gibraltar yn yr Algarve, Portiwgal (Dydd Iau 6 Mehefin) a Slofacia yn Trnava (Dydd Sul 9 Mehefin).

Bydd yr amddiffynwr Fin Stevens, chwaraewr canol cae Charlie Crew â’r ymosodwr Lewis Koumas yn rhan o’r garfan am y tro gyntaf. Mae Stevens wedi chwarae i’r tîm D21 17 o weithio ac wedi dathlu dyrchafiad i’r Pencampwriaeth EFl gyda Oxford United mis hyn, tra bod Charlie Crew wedi bod yn capten dros Gymru ym mhencampwriaethl UEFA EWRO D17 llynedd. Fe wnaeth ymosodwr Lerpwl Lewis Koumas sgorio yn ei gêm gyntaf i’r clwb ym mis Chwefror, mewn buddugoliaeth yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Southampton.

Bydd Page yn gweld y gemau fel cyfle i aelodau iau’r garfan gael profiad gwerthfawr cyn i ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ddechrau ym mis Medi, lle bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ, Twrci a Montenegro. Fe wnaeth Cymru wynebu Gibraltar ddiwethaf ym mis Hydref mewn buddugoliaeth 4-0 yn y Stōk Cae Ras yn Wrecsam. Y tro diwethaf wnaeth Cymru a Slofacia wynebu ei gilydd, hefyd yn Trnava, fe wnaeth Kieffer Moore sgorio mewn gêm gyfartal 1-1.

Cymru: Danny WARD (Leicester City), Adam DAVIES (Sheffield United), Tom KING (Wolverhampton Wanderers), Connor ROBERTS (Leeds United- On loan from Burnley), Fin STEVENS (Oxford United- On loan from Brentford), Joe RODON (Leeds United- On loan from Tottenham Hotspur), Chris MEPHAM (Bournemouth), Ben CABANGO (Swansea City), Joe LOW (Wycombe Wanderers), Ben DAVIES (Tottenham Hotspur), Jay DASILVA (Coventry City), Ethan AMPADU (Leeds United), Jordan JAMES (Birmingham City), Josh SHEEHAN (Bolton Wanderers), Charlie SAVAGE (Reading), Charlie CREW (Leeds United), Brennan JOHNSON (Tottenham Hotspur), Wes BURNS (Ipswich Town), Rubin COLWILL (Cardiff City), Daniel JAMES (Leeds United), Rabbi MATONDO (Rangers), Nathan BROADHEAD (Ipswich Town), Kieffer MOORE (Ipswich Town- On loan from Bournemouth), Liam CULLEN (Swansea City), Lewis KOUMAS (Liverpool).

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.