
Mae CBDC yn falch iawn o gadarnhau y bydd Chris Gunter yn ymuno efo tîm hyfforddi Cymru fel Hyfforddwr Datblygu Tîm Cenedlaethol yn dilyn ei ymddeoliad o chwarae ar ddiwedd y tymor hwn.
Bydd y rôl rhan-amser yn darparu cefnogaeth i’n chwaraewyr ifanc wrth iddynt drosglwyddo i bêl-droed garfan uwch a bydd hefyd yn cefnogi gwaith CBDC i sicrhau talent ar lwybr y Tîm Cenedlaethol.
Mae Gunter wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at y rôl newydd.
“Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus a bendithiol fy mod wedi mwynhau uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dros y 17/18 mlynedd diwethaf. Mae’r dros 700 o gemau wedi dod â llawer o heriau a chyfleoedd a thrwy’r cyfan rydw i wastad wedi rhoi fy mhopeth.
“Ni fyddai wedi bod yn bosib heb gefnogaeth fy nheulu o’r eiliad y dechreuais chwarae pêl-droed. Maen nhw wedi dilyn a chefnogi fy nhaith bob cam o’r ffordd.
“Fodd bynnag, rwy’n teimlo’n barod ac yn gyffrous ar gyfer pennod nesaf fy ngyrfa. Rydw i’n hynod o ddiolchgar i CBDC, a Robert Page yn enwedig. Ar ôl cwblhau fy mathodynnau hyfforddi, byddaf yn dechrau fy rôl newydd o’r haf. Mae’n gyfle cyffrous i weithio ochr yn ochr â Rob, a’r staff.”
Wrth siarad am y penodiad, dywedodd Prif Swyddog Pêl-droed CBDC, Dr. David Adams:
“Rydym yn falch iawn o groesawu Chris i’n tîm technegol fel hyfforddwr datblygu, bydd ei brofiadau yn ychwanegu gwerth enfawr i’n chwaraewyr ifanc sy’n trosglwyddo i Uwch Garfan ein Dynion.”
Bydd tîm Rob Page yn parhau â thaith ragbrofol EURO 2024 fis nesaf yn erbyn Armenia a Thwrci. Mae tocynnau ar gyfer y gêm Armenia ar ddydd Gwener 16 Mehefin yn stadiwm Dinas Caerdydd ar gael nawr ar gyfer aelodau’r Wal Goch a byddant yn mynd ar werth cyffredinol ar ddydd Mawrth 9 Mai ar wefan tocynnau CBDC.
GÊM RAGBROFOL UEFA EURO 2024
Cymru v Armenia
- 19:45 Dydd Iau 4 o Fai
- Stadiwm Dinas Caerdydd
- Tocynnau ar gael yma