Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Cymru i ddychwelyd i’r Cae Ras

Bydd Cymru yn chwarae yn y STōK Cae Ras yn Wrecsam pan fydd tîm Rob Page yn wynebu Gibraltar ar ddydd Mercher 11 o Hydref (cic gyntaf 19:45).

Fe wnaeth tîm dynion Cymru chwarae yn Wrecsam yn 2019, pan wnaeth Ben Woodburn sgorio yn fuddugoliaeth 1-0 o flaen dorf lawn yn erbyn Trinidad a Tobago.

Y STōK Cae Ras yw’r stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, ar ôl i Gymru chwarae yno am y tro gyntaf yn 1877. Mae’r stadiwm yng nghanol ddatblygiad gyda’r Kop yn cael ei ail-adeiladu i ddal 5,000 o gefnogwyr. Mae CBDC yn obeithiol bydd y datblygiadau newydd yn sicrhau fwy o gyfleoedd i groesawi bêl-droed rhyngwladol i Wrecsam ar draws ein holl dimau cenedlaethol, gan gynnwys yr ymgais i gynnal pencampwriaeth UEFA EURO D19 2026 fel rhan o ddathliadau’r Gymdeithas yn 150 blwydd oed.

“Mae’r gêm yn dangos bod gan CBDC ymrwymiad igynnal pêl-droed rhyngwladol yng ngogledd Cymru ar draws pob un o’n timau cenedlaethol”

Steve Williams – Llywydd CBDC

Dywedwyd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC “Ni’n hynod o gyffrous bod pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i’r gogledd ym mis Hydref. Mae aelodau’r Wal Goch yn yr ardal yn dangos ymroddiad enfawr wrth deithio’n aml i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ein gemau rhagbrofol. Rwy’n obeithiol byddwn ni’n medru rhoi perfformiad campus ar gyfer y gêm yn erbyn Gibraltar.”

Dywedwyd Steve Williams, Llywydd CBDC “Fe ges i fy magu yn yr ardal ac rwy’n hynod o falch i weld Cymru yn dychwelyd i’r STōK Cae Ras unwaith eto. Mae’r gêm yn dangos bod gan CBDC ymrwymiad i gynnal pêl-droed rhyngwladol yng ngogledd Cymru ar draws pob un o’n timau cenedlaethol, a bod Wrecsam yn rhan allweddol o’n hymgais i gynnal pencampwriaeth UEFA EURO D19 2026 a fydd yn dathlu penblwydd 150 oed y Gymdeithas.”

Bydd gwybodaeth tocynnau yn cael ei gyhoeddi mor fuan â phosib.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.