Dr Ian Mitcheel yn Ymuno â CBDC Fel Pennaeth Perfformiad Seicolegol

Mae CBDC yn hynod falch i gyhoeddi fod Dr Ian Mitchell wedi ymuno efo Timau Cenedlaethol Cymru fel Pennaeth Perfformiad Seicolegol.

Roedd Mitchell yn rhan o CBDC pan wnaeth Tîm Dynion Cymru cyrraedd rownd gynderfynol pencampwriaeth UEFA EURO 2016 o dan arweiniad Chris Coleman. Mae Mitchell hefyd wedi gweithio efo CPD Dinas Abertawe yn ystod ei amser nhw yn Uwch Cynghrair Lloegr a hefyd gyda’r FA yn Lloegr am bum mlynedd.

Mae Mitchell yn ymuno CBDC unwaith eto yn swydd newydd a fydd yn golygu gweithio efo Tîm Dynion Cymru yn ogystal â chyfrifoldebau ar draws y timau dynion a menywod a phrosiectau arall ledled CBDC. Fe wnaeth Rheolwr Cymru Rob Page croesawi’r newyddion:

“Ni’n hynod falch i groesawi Dr Ian Mitchell fel ein Pennaeth Perfformiad Seicolegol. Mae’r cyhoeddiad yn dangos pa mor uchelgeisiol mae CBDC yn bwriadu bod er mwyn sicrhau bod gennym ni’r safonau uchaf i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol ar draws ein timau cenedlaethol. Mae gan Ian profiad gwych o ran gweithio efo chwaraewyr o’r safon uchaf a phrofiad eithriadol yn y byd academaidd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio efo Ian.”

“Mae’n fraint i weithio efo CBDC unwaith eto, ar ôl profiad anhygoel o weithio efo’r tîm yn EURO 2016. Roedd gennym ni grŵp o chwaraewyr a staff arbennig iawn a oedd wedi creu awyrgylch unigryw. Rwy’n gobeithio ail fyw’r profiadau unwaith eto efo’r grŵp newydd sydd yma nawr ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru, gwlad arbennig ac unigryw, unwaith eto.”

Dr Ian Mitchell

Yn ôl Dr David Adams, Pennaeth Pêl-Droed CBDC, Mae’r newyddion yn amlinellu bwriadau’r Strategaeth Perfformiad Uchel a lansiwyd gan y gymdeithas llynedd:

“Ers cyflwyno ein Strategaeth Perfformiad Uchel, roeddwn ni’n ymwybodol bod angen i ni gynnig cefnogaeth seicolegol i’n chwaraewyr ar draws ein Timau Cenedlaethol. Mae’r rhan hyn o berfformiad yn hynod bwysig i sicrhau llwyddiant fel unigolion ac fel tîm ac rwyf yn hyderus bod gan Ian y profiad a’r wybodaeth i sicrhau strategaethau seicolegol llwyddiannus ar draws ein timau. Rwy’n falch i groesawi Ian nol i Gymru.”

Mae cyfweliad efo Ian Mitchell ar gael i wylio ar RedWall+.

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.