Double ticket offer for Cymru WEURO matches

Dydd Miwsig Cymru ar RedWall+

Ymunwch â CBDC i ddathlu cerddoriaeth iaith Gymraeg ac artistiaid Cymreig ar RedWall+ y Dydd Miwsig Cymru hwn.

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg, o indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica i hip hop a phopeth arall dan haul.

Mae CBDC yn cydnabod pwysigrwydd cerddoriaeth ac artistiaid Cymreig wrth lunio ac anrhydeddu hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Mae cerddoriaeth yn 

Mae cerddoriaeth yn parhau i fod yn ganolog i brofiad pêl-droed Cymru sy’n cael ei amlygu ar draws y nifer o benodau a rhaglenni dogfen sy’n dathlu artistiaid cerddoriaeth Gymraeg ar wasanaeth ffrydio CBDC, RedWall+.

Wales on the World Stage

Mae ‘Wales on the World Stage’ yn gyfres sy’n dilyn artistiaid gwahanol yn dathlu ac yn arddangos diwylliant Cymru. Mae’r gyfres yn cynnwys Dafydd IwanSage Todz a Chôr yr Urdd.

O artist cerddoriaeth Gymreig i drysor cenedlaethol, i seren fyd-eang. Yn y gyfres hon mae Dafydd Iwan yn sôn am sut y daeth y clasur Cymraeg, Yma O Hyd, yn anthem i Gymru yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Gellir gwylio fideo cerddoriaeth ‘Yma O Hyd’ gan Dafydd Iwan x Ar Log x Y Wal Goch ar RedWall+.

Mae’r rapiwr Cymreig Sage Todz yn trafod cynrychioli Cymru a diwylliant Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn y gyfres Wales on the World Stage.

Cyn Rownd Derfynol Cwpan y Byd FIFA Cymru yn erbyn Wcráin, ymunodd CBDC â’r artist dril o Gymru i ryddhau trac unigryw ‘O HYD’. Mae’r trac yn dechrau gyda sampl angerddol o Yma O Hyd gan yr artist gwerin chwedlonol Dafydd Iwan, cyn arwain at rap cyffrous Sage Todz. Gellir gwylio fideo cerddoriaeth ‘O HYD’ ar RedWall+.

Cwrdd â Chôr yr Urdd, sydd fel Dafydd Iwan a Sage Todz, yn sôn am eu profiad yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn y gyfres hon. 

Yr Urdd yw prif fudiad ieuenctid Cymru ac mae wedi cael ei sefydlu ers 100 mlynedd. Prif bwrpas yr Urdd yw sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cynnig i bobl ifanc Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth siarad am Gôr yr Urdd yn Qatar, dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Sian Lewis: “Mae canu bob amser yn digwydd i godi’r dorf a chodi’r tîm. Felly, roedd yn rhan naturiol bod diwylliant yn plethu â chwaraeon wrth inni gymryd Cymru, yr iaith Gymraeg, ein gwlad, a’n gwerthoedd a hyrwyddo’r rheini fel Tîm Cymru.”

Gŵyl Cymru

Mae gwyliau diwylliannol Cymru ymhlith y gorau yn y byd, o’r Eisteddfod, i’r Dyn Gwyrdd, i Tafwyl lle mae pobl sy’n caru cerddoriaeth a’r celfyddydau yn mynychu bob blwyddyn.

Yn 2023, ail-lansiwyd Gŵyl Cymru gan GBDC a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r nod i bêl-droed a chreadigrwydd fod wrth galon ein cymunedau ac i chwaraeon a’r celfyddydau fod yn llwyfan i ddangos Cymru ar ei orau, mewn llawer o wyliau mwyaf y wlad.

Mae ‘A day at the Urdd Eisteddfod’ yn dilyn rheolwyr Cymru Rob Page a Matty Jones wrth iddynt ymweld ag Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri lle cawsant gyfle i wrando ar y band Cymraeg Dros Dro yn perfformio’n fyw.

Mae’r cerddor pop trydan o Gymru, Ani Glass, yn perfformio yn ei hieithoedd brodorol Cymraeg a Chernyweg ac mae wedi bod yn hyrwyddwr balch o waith CBDC yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant i’r byd ers blynyddoedd.

Yn ‘Ani Glass yn holi Ian Gwyn Hughes: Gŵyl Cymru at Tafwyl’ cawn glywed am sut mae’r Gymdeithas wedi creu diwylliant pêl-droed positif, agored a chroesawgar gyda’r Gymraeg yn ganolog i’r weledigaeth.

Mae Gŵyl Cymru yn yr Eisteddfod a Tafwyl, yn ogystal â’r digwyddiadau ar draws gwyliau diwylliannol eraill, yn arddangos y cysylltiad cryf rhwng cerddoriaeth, diwylliant a phêl-droed yng Nghymru.

Artistiaid Cymreig

Mae CBDC wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid Cymreig anhygoel gan gynnwys LemfreckKatie OwenMace the Great a Teddy Hunter sydd i gyd gyda pennod o ‘Wales on the World Stage’ ar RedWall+.

Gallwch hefyd wylio’r fideo cerddoriaeth ar gyfer ‘The Red Wall of Cymru’ gan The Alarm a ‘FOR HER’ gan Juice Menace. Mae Juice hefyd yn ymddangos yn rhaglen ddogfen wreiddiol RedWall+ ‘Carnival’ yn sôn am sut ymunodd hi â CBDC i ryddhau’r trac unigryw cyn gemau rhagbrofol allweddol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd Merched 2023 FIFA yn erbyn Gwlad Groeg a Slofenia.

Dathlwch fwy o gerddoriaeth anhygoel Cymru drwy wrando ar restr chwarae Dydd Miwsig Cymru a grëwyd yn arbennig gan Lywodraeth Cymru yma.

Dydd Miwsig Cymru hapus! 

Learn more from FA Wales

Sign up to receive all things FAW, from team news, tickets, domestic, grassroots, to exclusive offers and prize draws.

We respect your privacy and are committed to protecting your personal data – view our privacy policy by clicking here.